Bwyta
Burger King

Mae Burger King yn cynnig amrywiaeth o brydau, gan gynnwys brecwast a phrif brydau, am yr un prisiau â’r stryd fawr, ac mae wedi ei leoli ar lawr cyntaf y brif derfynfa yn ymyl y Pentref Bwyd.
Café Ritazza

Mae Café Ritazza yn y lolfa ymadael yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, cacennau blasus a dewis eang o de a choffi.
Yr Echo Bar

Mae’r Echo Bar yn y lolfa ymadael yn fywiog ac yn fodern gyda golygfa dros arosfannau’r awyrennau. Mae’r wal fideo yn chwarae’r gerddoriaeth ddiweddaraf a cheir yno ddewis llawn o ddiodydd alcoholaidd a di-alcohol, yn ogystal â bwydlen gynhwysfawr.
Bar y Fly Half

Mae Bar y Fly Half ar y llawr cyntaf ar agor yn ystod yr oriau trwyddedig arferol i deithwyr sy’n hedfan o’r maes awyr. Cewch ddewis helaeth o ddiodydd alcoholaidd a di-alcohol yno.
Y Pentref Bwyd

Mae’r Pentref Bwyd, sydd yn yr adran fwyd ar lawr cyntaf y derfynfa, yn cynnig dewis eang, gan gynnwys brechdanau, byrbrydau, bwyd poeth a diodydd. Mae bwydlenni ar gael mewn Braille.