Cardiff Airport

Newyddion

Maes Awyr ac AviaVox yn gwella cyhoeddiadau'r derfynfa

Cyhoeddwyd: 02 Rhagfyr 2010

Mae Maes Awyr Caerdydd a'r cwmni o’r Iseldiroedd AviaVox wedi ffurfio partneriaeth a fydd yn newid natur y cyhoeddiadau tannoy a glywir yn y derfynfa o ddiwedd Rhagfyr 2010.

Bydd system AviaVox yn darparu cyhoeddiadau llais artiffisial deallus i deithwyr fydd yn aros am wybodaeth a galwadau i hedfan yn y derfynfa, a bydd llawer o'r cyhoeddiadau yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

Caerdydd yw'r ail faes awyr o eiddo TBI abertis a'r pumed cwsmer yn y DU i gofrestru gyda system gyhoeddiadau awtomatig AviaVox ar gyfer yr holl gyhoeddiadau sy’n berthnasol â hedfan.

Bydd cyflwyno'r system hon yn caniatáu i Asiantau Gwasanaethau Cwsmeriaid, sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am holl gyhoeddiadau'r derfynfa, ganolbwyntio ar brofiadau'r cwsmeriaid yn y maes awyr. Bydd galwadau ad hoc yn parhau i gael eu gwneud gan yr asiantau yn ôl y galw.

Dywedodd Margaret James, Rheolwr Cytundebau a Safonau Maes Awyr Caerdydd am y bartneriaeth newydd: "Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda AviaVox ac i gael y system tannoy awtomatig newydd yn y derfynfa. Bydd y dechnoleg newydd yn gwella ansawdd y cyhoeddiadau, ac yn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’n cwsmeriaid.

Pan fydd y system newydd yn weithredol bydd gan Asiantau Gwasanaethau Cwsmeriaid y maes awyr fwy o amser i barhau gyda'u dyletswyddau o ddydd i ddydd megis cynorthwyo teithwyr gydag unrhyw ymholiadau a sicrhau bod safonau a gwasanaethau i gwsmeriaid yn cael eu cadw'n uchel ymhob rhan o'r derfynfa."

Cwblheir y rhan fwyaf o’r gwaith cyn diwedd Rhagfyr 2010, a bwriedir gorffen cam olaf y gwaith o wneud pob cyhoeddiad byrddio yn awtomatig ger y naw clwyd ymadael erbyn diwedd Ionawr 2011.

News menu