bmibaby yn lansio cystadleuaeth ‘Hedloniant’
Cyhoeddwyd: 02 Rhagfyr 2010
Mae’r gystadleuaeth Enterplanement, neu ‘Hedloniant’ yn ei hôl ac yn chwilio am un ffan lwcus i fod yn seren ddisglair yn y ffurfafen!
Mae bmibaby yn rhoi cyfle i unigolion ennill gwobr na all arian ei brynu: gwerth blwyddyn o deithiau hedfan a'r cyfle i berfformio ar fwrdd awyren bmibaby.
Bydd elfen gyffrous yn y rownd ddiweddaraf o hedloniant – sef adloniant byw tra'n hedfan – pan fydd bmibaby yn arddangos talent Caerdydd ar yr awyren, a bydd y cwmni'n cynnal clyweliadau tebyg i Britain's Got Talent er mwyn dod o hyd i’r ymgeisydd delfrydol.
Bydd yr unigolyn sy'n llwyddo yn y clyweliad yn ennill gwyliau am benwythnos yn y lleoliad y bydd yr awyren y bydd yn perfformio arni yn hedfan iddo, yn ogystal â gwerth blwyddyn o deithiau i unrhyw leoliad yn rhwydwaith bmibaby!
I fod â chyfle i ennill, rhaid i ymgeiswyr arddangos eu talent i bmibaby drwy anfon pytiau fideo/sain, disgrifiadau neu luniau o'u perfformiad. Dewisir deg ymgeisydd lwcus terfynol ac fe'u gwahoddir i glyweliad byw yng Nghaerdydd gerbron bmibaby.
Ffurf newydd o adloniant tra'n hedfan yw 'Hedloniant' sy'n caniatáu i berfformwyr arddangos eu talentau tra'n cynnig blas i deithwyr ar y gyrchfan cyn iddyn nhw gyrraedd. Bwriad hedloniant yw i symbylu teithwyr roi cynnig ar rywbeth amgen tra ar eu gwyliau, rhywbeth na allant ddarganfod mewn llyfrau taith. Mae hefyd yn cynnig y cyfle delfrydol i berfformwyr arddangos eu talentau a hyrwyddo eu hunain.
Eisoes trefnwyd dwy daith hedloniant lwyddiannus gan bmibaby, y gyntaf i Prâg a’r ail i Fenis. Ar y daith i Prâg perfformiodd y soprano ddisglair Vera Likerova o Opera Genedlaethol Prague alawon operatig adnabyddus.
Bu ail daith hedloniant i Fenis hefyd yn llwyddiant. Y tro hwnnw cafwyd perfformiad theatrig byr gan Teatro San Gallo yn y lolfa ymadael i deithwyr ei fwynhau tra'n disgwyl cael ymadael, ac yn yr awyr perfformiwyd gwaith Vivaldi gan y feiolinydd Matteo Mesini o’r Collegium Ducale.
Dywedodd Julian Carr, Rheolwr Gyfarwyddwr, bmibaby:
"Gan ein bod yn hedfan i nifer helaeth o leoliadau poblogaidd yn Ewrop roeddem yn awyddus i chwilio am ffyrdd o ddod â'r lleoliadau yma yn fyw. Yn hytrach na defnyddio dulliau confensiynol, teimlem y gallem gynnig rhywbeth mwy rhyngweithiol trwy gael cynrychiolwyr o’r lleoliadau ar ambell daith!
"Yn y pen draw rydym yn awyddus i'n cwsmeriaid fwynhau'r profiad, gan obeithio ei fod yn cynnig syniadau ac awgrymiadau, o bosib na fyddent yn eu darllen mewn cylchgrawn twristaidd arferol neu lyfr taith, ynglŷn â beth i'w wneud a'i weld mewn lleoliad arbennig."
I gael cyfle i ennill, rhowch wybod i ni sut y byddech yn dymuno diddanu ein teithwyr. Anfonwch bwt fideo neu sain neu eglurhad ysgrifenedig o’ch talent neu sgil i bmibaby@therabbitagency.com.