Cardiff Airport

Newyddion

Bargeinion gwyliau gaeaf gan Flybe

Cyhoeddwyd: 01 Tachwedd 2010

Prif gwmni awyrennau rhanbarthol yn dechrau gweithredu amserlen y gaeaf ar bedwar llwybr a dewis o hyd at 84 taith yr wythnos.

Dechreuodd Flybe, cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop a phrif gwmni hedfan mewnol y DU, weithredu ei raglen aeaf 2010/11 y penwythnos yma o Gaerdydd, gan gynnig dewis o hyd at 84 taith yr wythnos i deithwyr i bedwar lleoliad allweddol, gyda theithiau ar gael o 31 Hydref a phrisiau yn dechrau o £28.99 un ffordd sy’n cynnwys trethi a thaliadau.

Mae’r penwythnos yma hefyd yn nodi’r cytundeb newydd Flybe gydag Air France, sy’n cynnig pecyn cyffrous i gwsmeriaid gyda mwy o ddewis, mwy o deithiau, mwy o lwybrau, gwasanaethau amlach ac o safon well yn ôl ac ymlaen i Ffrainc. O ganlyniad i’r cytundeb, bydd holl wasanaethau Flybe rhwng Caerdydd a Pharis yn gweithredu trwy Derfynfa 2E ym Maes Awyr Paris Charles de Gaulle, gan ddarparu cyswllt hawdd a di-dor i holl wasanaethau eang rhyngwladol Air France.

Pedwar llwybr Flybe dros y gaeaf o Gaerdydd fydd:

  • Belfast City 
  • Paris Charles De Gaulle [yn gweithredu yn Nherfynfa 2E] 
  • Caeredin 
  • Glasgow

* Hyd at 84 taith yr wythnos

* Tocynnau o £28.99 un ffordd yn cynnwys trethi a thaliadau y maes awyr

* Manylion llawn ac archebu ar gael ar www.flybe.com

Yn ôl Mike Rutter, Prif Swyddog Masnachol Flybe: "Mae amrywiaeth ein rhwydwaith aeaf eleni wedi ehangu’n sylweddol gyda'r cyfoeth o gyfleoedd ychwanegol sy’n deillio o gychwyn ein cytundeb newydd gydag Air France."

"Mae Flybe yn llwyr ymwybodol o'r angen i barhau i ddarparu teithio fforddiadwy yn enwedig yn ystod y dyddiau economaidd heriol sydd ohoni ac rydym yn hyderus y bydd ein hamserlen aeaf gynhwysfawr yn cynnig detholiad o deithiau poblogaidd, gan gynnwys lleoliadau heulog yn ogystal â rhai ar gyfer sgïo, a fydd yn caniatáu i deuluoedd barhau i deithio y gaeaf yma."

News menu