Gweithwyr olew am elwa ar gyswllt i Aberdeen
Cyhoeddwyd: 08 Tachwedd 2010
Bydd gwasanaeth awyr i gysylltu Caerdydd ac Aberdeen yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd gan y cwmni awyrennau busnes o'r DU, Eastern Airways.
O 4 Ionawr 2011 ymlaen, bydd Eastern Airways, sy'n gweithrdeu mwy o deithiau o Faes Awyr Aberdeen nac unrhyw gwmni arall, yn cynnig gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar y Sul o Gaerdydd i Aberdeen trwy Newcastle. Bydd y gwasanaeth yma’n lleihau'r amser teithio yn sylweddol o'i gymharu ag opsiynau hedfan eraill neu drên, car neu fws.
Bydd y gwasanaeth rheolaidd yn ystod yr wythnos yn gadael Caerdydd am 7.30am ac yn cyrraedd Aberdeen am 10.25am, a bydd y gwasanaeth yn gadael Aberdeen am 4.05pm a chyrraedd Caerdydd am 6.40pm.
Ar y Sul bydd y gwasanaeth yn gadael Caerdydd am 7.05pm, gan gyrraedd Aberdeen am 9.20pm. Bydd y gwasanaeth yn gadael Aberdeen am 4.25pm gan gyrraedd Caerdydd am 6.40pm.
Meddai Roger Hage, rheolwr gweithrediadau ar y ddaear Eastern Airways: "Aberdeen yw prifddinas ynni Ewrop a bydd ein cyswllt rhwng de Cymru a gogledd ddwyrain yr Alban o fudd sylweddol i weithwyr y diwydiant ynni. O'r flwyddyn newydd ymlaen byddwn yn cynnig y cyswllt teithio cyflymaf i Aberdeen o Gaerdydd, a fydd yn arbed amser prin i deithwyr busnes a hamdden gan gryfhau cysylltiadau busnes."
Ychwanegodd Patrick Duffy, rheolwr gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn ymwybodol fod galw am wasanaeth i Aberdeen o’r ardal ac rydym yn falch fod Eastern Airways wedi cydnabod hyn ac wedi penderfynu ehangu ymhellach eu gwasanaeth o Gaerdydd gyda chysylltiad mor werthfawr. Rydym yn gobeithio y bydd y gymuned leol yn cefnogi'r gwasanaeth a fydd yn arbed amser i deithwyr busnes a hamdden."
Bydd pob teithiwr fydd yn gadael Maes Awyr Aberdeen gydag Eastern Airways yn cael mynediad i’r lolfa fusnes arbennig.
Yn cael ei hadnabod fel Y Ddinas Wenithfaen, mae Aberdeen hefyd yn fynedfa i ranbarth y Grampian sy'n cynnwys unig lwybr wisgi brag gydag wyth distyllfa arno. Mae yno nifer o gestyll hardd ac mae’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau golff neu gerdded yng ngolwg y mynyddoedd a’r arfodir hardd.
Mae Eastern Airways wedi bod yn gweithredu o Faes Awyr Caerdydd ers 2006 gan ddarparu dwy daith i Newcastle o ddydd Llun i ddydd Gwener i deithwyr busnes o Gymru a'r mis diwethaf lansiodd y cwmni wasanaeth newydd ar y Sul. Mae'r gwasanaeth o Gaerdydd i Newcastle hefyd yn cynnig cysylltiad â Stavanger yn ne orllewin Norwy.
Wedi'u sefydlu 12 mlynedd yn ôl, dechreuodd Eastern Aiways, sydd â'u pencadlys yn Humberside, adeiladau eu rhwydwaith o wasanaethau rheolaidd o gwmpas diwydiannau Môr y Gogledd gyda theithiau ar hyd arfordir dwyreiniol Lloegr i Aberdeen. Y cwmni awyrennau yma yw'r ail gwmni rhanbarthol mwyaf yn y DU gyda 30 o awyrennau yn hedfan o 21 maes awyr yn y DU, Iwerddon, Norwy a Ffrainc.