Cardiff Airport

Newyddion

Craig Speirling- Princes Trust 2010

Cyhoeddi enillydd Gwobr Flying Start

Cyhoeddwyd: 18 Tachwedd 2010

Enillodd llanc ifanc o Gaerdydd wobr o fri am y modd y llwyddodd drawsnewid ei fywyd o fod yn ddigartref ac yn ddi-waith i fod mewn swydd gwerth chweil gyda gyrfa fel actor o’i flaen.

Dyfarnwyd Craig, sy'n 21 oed ac o Gaerdydd, yn enillydd Gwobr Flying Start Maes Awyr Caerdydd yng Ngwobrau Dathlu Llwyddiant Ymddiriedolaeth Cymru Y Tywysog yn Y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd, sy’n cydnabod pobl ifanc a lwyddodd er gwaetha’u hamgylchiadau.

Yng nghwmni llu o sêr Cymreig gan gynnwys Huw Stephens o BBC Radio 1, Lucy a Rhodri Owen, y cyflwynydd Chris Corcoran, yn ogystal â sêr o'r byd chwaraeon o Glwb Pêl Droed  Dinas Caerdydd a Gleision Caerdydd, gwobrwyodd 'Dathlu Llwyddiant' orchestion pobl ifanc a frwydrodd i oresgyn rhwystrau yn eu bywydau, a'r bobl a’r sefydliadau a'u cefnogodd nhw.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd Craig yn ddigartref ac yn ddi-waith a heb syniad am gyfeiriad i’w fywyd. Yn byw mewn hostel yn dilyn problemau gartref, ac yn ddi-waith am ddwy flynedd, aeth Craig yn gynyddol rwystredig a diobaith.

Bu bywyd cartref Craig wastad yn gythryblus ac yn dilyn dadl arbennig o ffyrnig, fe'i gorchmynnwyd i adael. Gan nad oedd gan Craig unrhyw le i fynd iddo, bu’n crwydro yn ôl a blaen ymhlith ei deulu estynedig i osgoi byw ar y stryd.

Ym mhen hir a hwyr cafodd le yn Hostel Northlands - sy’n cael ei redeg gan Fyddin Yr Iachawdwriaeth ar gyfer pobl ifanc. Ac yno, diolch i'w weithiwr prosiect, clywodd Criag am gwrs Ymddiriedolaeth Y Tywysog, 'Dechrau 'da Drama'. Er nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn drama, roedd Craig yn ysu am rywbeth cadarnhaol ac adeiladol i’w wneud.

Ymdaflodd Craig ei hun i'r cwrs gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad. Roedd wastad ar amser, yn barod i arbrofi ac i gefnogi’i gydweithwyr. Er nad oedd ganddo ddim profiad ym myd y ddrama, darganfu fod ganddo dalent gynhenid i actio, gydag amseru perffaith ar gyfer comedi.

Yn ystod y cwrs, cynyddodd hyder Craig yn sylweddol ac yn feunyddiol gwelwyd gwelliant yn ei sgiliau cyfathrebu. Yr her olaf i'r grŵp oedd sgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio drama i'w llwyfannu yn Theatr Y Sherman Caerdydd. Roedd perfformiad Craig y tu hwnt i bob disgwyl a chreodd gryn argraff ar staff y theatr.

Erbyn hyn mae Craig yn gweithio’n llawn amser fel gofalwr ar gyfer pobl anabl. Mae ei ddiddordeb yn y byd actio yn parhau gan iddo ymuno â grŵp drama yn Sherman Cymru. Eisoes cafodd Craig ran mewn dau berfformiad ac mae’n gweithio ar gyfer Lefel 1 BTEC mewn drama.

Meddai Craig: "Heb y cwrs 'Dechrau 'da Drama' fyddwn i byth wedi darganfod actio. Does gen i ddim syniad beth fyddai nyfodol i wedi bod heb gefnogaeth Ymddiriedolaeth Y Tywysog a’r cwrs."
 
Ers cwblhau'r cwrs, mae Craig wedi darganfod yr hyder i symud ymlaen gyda'i fywyd ac edrych ar gyfleoedd newydd. Mae Craig hyd yn oed wedi mentora aelodau diweddarach ar y cwrs 'Dechrau 'da Drama'. Er gwaetha'r sawl rhwystr a her a wynebodd, wnaeth Craig erioed roi'r gorau iddi ac fe lwyddodd i newid ei fywyd yn llwyr er gwell. Dywedodd; "Ro'n i'n ddi-waith ac yn ddigartref, ac yn awr rwy'n gweithio ac o ddifri ynglŷn â drama, sydd wrth fy modd."

Meddai Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd oedd yn noddi’r wobr: "Roeddem yn falch iawn o gael cydweithio gydag Ymddiriedolaeth Y Tywysog a chefnogi’r Wobr Flying Start eleni. Mae’r Gwobrau Dathlu Llwyddiant yn llwyfan gwych i arddangos gorchest pobl ifanc hynod Cymru a’r gobaith yw y byddant yn annog pobl ifanc eraill i ddilyn yn ôl eu troed."

News menu