Cardiff Airport

Newyddion

bolier house 1

Maes Awyr yn noddi prosiect graffiti

Cyhoeddwyd: 13 Medi 2010

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi sefydlu partneriaeth gyda'r grŵp o Gaerdydd, Peaceful Progress er mwyn noddi cynllun lleol o'r enw "Cynllun Graffiti y Boiler House."

Cyfrannodd y maes awyr arian i gefnogi’r prosiect, sef yr oriel 'gelf y stryd' a graffiti ynghyd â siop graffiti benodedig cyntaf yng Nghymru, sydd yn cynnig cefnogaeth i artistiaid lleol trwy ddarparu cyfleoedd i arddangos a gwerthu eu gwaith.

Ffurfiwyd Peaceful Progress, sydd yn gysyniad cyfunol a sefydlwyd yn 2000 gan yr artist graffiti Bryce Davies, er mwyn hyrwyddo celf amrywiol mewn dull onest a chadarnhaol. Mae gan y grŵp ddau leoliad graffiti allanol ar furiau yn mesur dros 100 troedfedd ac ar gael i'w paentio ar unrhyw adeg, ac mae’n cynnal gweithdai a dosbarthiadau graffiti rheolaidd yn y Boiler House yng Ngogledd Llandaf, Caerdydd, gan ddenu grwpiau yn amrywio o Wasanaeth Prawf Castell Nedd Port Talbot i Gymdeithas Gelf Prifysgol Caerdydd. 

Meddai Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd: "Pleidleisiodd Pwyllgor Touchdown y maes awyr o blaid cefnogi'r prosiect hwn gan ei fod yn cyrraedd ein meini prawf ar gyfer cefnogi prosiectau celfyddydol a diwylliannol lleol trwy ddarparu gofod cyfreithlon ar gyfer graffiti sy’n eich galluogi i wir werthfawrogi’r arddull gelf yma."

Ychwanegodd Jodie Driscoll o Peaceful Progress: "Llwyddodd cefnogaeth Maes Awyr Caerdydd i Gynllun Graffiti Boiler House roi cychwyn i’r prosiect a thrwy hynny droi syniad yn realiti. Fe'n cynorthwyodd i drawsnewid hen warws oedd yn adfail i fod yn Oriel Gelf y Stryd weithredol sydd yn addas i’r cyhoedd ymweld â hi.

"Mae’r oriel yn darparu llwyfan cyfreithlon i artistiaid graffiti o bob cwr o Gymru fynegi eu hunain ac arddangos eu gwaith i gynulleidfa ehangach. Rydym wedi derbyn ymateb positif gan artistiaid, trigolion lleol a llu o grwpiau cymunedol sydd wedi ymweld â’r ganolfan hyd yma"

"Rydym yn awyddus i barhau i hyrwyddo’n bositif y byd Graffiti a Chelf y Stryd yn ne Cymru, ac yn mawr werthfawrogi’r gefnogaeth gan Faes Awyr Caerdydd."

Am fwy o wybodaeth am gynllun cymunedol ac elusennol Maes Awyr Caerdydd, 'Rhaglen Touchdown', cliciwch yma.

News menu