Cardiff Airport

Newyddion

Maes Awyr Caerdydd yn cyhoeddi nawdd i Ŵyl Dylunio Caerdydd

Cyhoeddwyd: 08 Medi 2010

Mae Maes Awyr Caerdydd yn hynod falch o gyhoeddi ei fod am noddi Gŵyl Dylunio Caerdydd.

Wedi'i threfnu gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd UWIC, mae'r ŵyl yn dathlu yr hyn sydd orau yn y byd dylunio Cymreig mewn nifer o ddigwyddiadau bob mis Hydref sy'n goleuo, ysbrydoli a phryfocio.

Mae’r Ŵyl yn cynnig llwyfan sy’n rhoi sylw amlwg i'r sector ddylunio ac mae'n dangos sut mae dylunio yn effeithio ar bob agwedd o'n bywydau, o'r gwelyau y byddwn yn cysgu ynddyn nhw i'r modd y mae pacedi grawnfwyd yn cadw'n brecwast yn ffres, o'r modd mae arwyddion ffyrdd yn ein cynorthwyo i gyrraedd y gwaith i gynllun y gweithle ei hun.

Meddai Olwen Moseley, Cyfarwyddwr yr Ŵyl a Cyfarwyddwr Mentrau yn yr Ysgol Gelf a Dylunio: "Mae cyfoeth o ddylunwyr galluog a meddylwyr dylunio yn y ddinas a thrwy Gymru benbaladr a chenhadaeth yr Ŵyl yw sicrhau fod eu sgiliau a'u hangerdd yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi gan y cyhoedd a'r byd busnes yn ogystal â gan gyd ddylunwyr proffesiynol.

Bydd cael cefnogaeth Maes Awyr Caerdydd yn hynod werthfawr i gynorthwyo i hysbysebu hyn a'r cyfraniad mae dylunwyr yn ei wneud i'r economi leol."

Mae'r gymuned ddylunio yn trefnu cyfres o sgyrsiau, arddangosfeydd a digwyddiadau rhwng 1 a 16 o Hydref eleni ac os ydych yn ddylunydd ai peidio byddwch wrth eich bodd gyda'r hyn sydd ar y gweill gan gynnwys y cyfle i weld Arddangosfa Dylunio Gorau Cymru a fydd i'w gweld yn y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru yn ogystal â lleoliadau eraill ar draws y ddinas yn ystod mis Hydref.

Mae pwyslais Gwobrau'r Arddangosfa ar ganlyniadau a lwyddodd y dylunio i greu effaith sylweddol, nid yn unig beth sy'n edrych yn wych.

Ychwanegodd Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd: "Y Celfyddydau a Diwylliant yw un o'r meysydd allweddol sy’n cael cefnogaeth gan Raglen Touchdown y maes awyr, ac felly roedd hwn yn gyfle delfrydol i ni gefnogi menter mor wych wedi'i lleoli ym mhrifddinas gwlad mor ddiwylliannol gyfoethog.

Rydym wrth ein bodd yn noddi gŵyl mor gyffrous sy’n parhau i dyfu yn flynyddol, gan obeithio y bydd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac yn rhoi pleser i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt."

Ymhlith y digwyddiadau eraill bydd cynhadledd undydd ar greadigrwydd mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd a drefnir gan y Sefydliad Materion Cymreig, arddangosfa o decstilau cyfoes yn Oriel Howard Gardens Caerdydd, sgwrs Staziker Jones a’r Asiantaeth Ddarlunio Ganolog am ddarlunio llyfrau, lansio 'Maniffesto Dylunio' Dylunio Cymru/Prosiect SEE i greu ymwybyddiaeth o effeithiau dylunio diwydiannol, cymdeithasol a gwasanaethau, gemau wedi'u trefnu gan ThinkArk a digwyddiadau dylunio ar gyfer plant a’u rhieni yn Chapter ac yn Arcedau Royal a Morgan.  

Am fwy o wybodaeth am yr Ŵyl ac i gael golwg ar ymgeiswyr gorau Dylunio Cymru a Graddedigion Dylunio Cymru ac i gael gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir ym mis Hydref ewch i www.cardiffdesignfestival.org.

News menu