Cardiff Airport

Newyddion

sharm redsea

Red Sea Holidays yn lansio rhaglen o Gaerdydd

Cyhoeddwyd: 26 Awst 2010

Mae'r arbenigwyr ar Yr Aifft, Red Sea Holidays, yn falch o gyhoeddi y bydd eu gwasanaeth i Sharm El Sheikh ar gael am y tro cyntaf o Faes Awyr Caerdydd o fis Tachwedd 2010 mewn cydweithrediad â Thomson Airways.

 Yn Sharm, mae’r cwmni’n cynnig dewis o 13 gwesty pedair neu bum seren, pump ohonyn nhw ar gael yn unig i gwsmeriaid Red Sea Holidays o’r DU. Ymhlith yr awgrymiadau gwyliau eraill mae 'Mordaith ac Aros' – mordaith ar yr afon Nil gyda chyfnod ar draeth, yn ogystal â theithiau aml ganolfan er mwyn cael mwynhau prif atyniadau diwylliannol/hanesyddol Yr Aifft a’r mannau gwyliau arfordirol.

Mae Red Sea Holidays yn ddewis gwych i deuluoedd hefyd gan fod y gwestyau hollgynhwysiol sy’n eiddo i’r chwaer gwmni Red Sea Hotels yn cynnig pris safonol o £399 y plentyn (2 – 12 oed) am wyliau 7 neu 14 noson. Yn ogystal, pan fydd rhieni’n trefnu gwesty ar sail Gwely a Brecwast neu pecyn Dau Bryd, bydd plant yn cael dyrchafiad i ddarpariaeth hollgynhwysiol. Er enghraifft, y pris cychwynnol am wythnos ar sail pecyn hollgynhwysiol yn Rhagfyr yn y Sharm Resort pedair seren yw £419 y pen (dau yn rhannu). Mae’r prisiau yn cynnwys hedfan nôl a mlaen o Gaerdydd. Ar bob taith, bydd lwfans bagiau hael, prydau bwyd tra'n hedfan a chludiant dwy ffordd i’r lleoliad gwyliau o'r maes awyr oll yn gynwysedig yn y pris, ynghyd â gwasanaeth stafell 'ymadael hwyr' ymhob un o westyau Red Sea Hotels.

Meddai'r Cyfarwyddwr Gwerthu, Jason Hilton: "Rydym yn falch o gael cynnig ein teithiau cyntaf o Gaerdydd gyda Thomson Airways; mae rhoi’r cyfle i’n cwsmeriaid hedfan o'u maes awyr lleol, rhanbarthol yn elfen allweddol yn ein strategaeth o fod yn brif ddarparwr ar gyfer y Môr Coch"

Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn croesawu penderfyniad Red Sea Holidays i gynnig pecynnau gwyliau o Faes Awyr Caerdydd gan y bydd hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o ddewis o leoliadau gwyliau i deithwyr o fewn ein dalgylch dros y gaeaf yn ogystal â thymor yr haf. Rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio gyda Red Sea Holidays ar eu gwasanaeth newydd o Gaerdydd."

Mae gan Red Sea Holidays fersiwn ar-lein o’u llyfryn sy’n rhoi’r dewis i gwsmeriaid bori ar-lein a lawrlwytho tudalennau penodol neu’w w r llyfryn cyfan. Ffoniwch 0845 026 5973 neu ewch i www.redseaholidays.co.uk.

News menu