Cystadlu am un o brif wobrau’r diwydiant
Cyhoeddwyd: 28 Gorffennaf 2010
Enwebwyd Maes Awyr Caerdydd ar gyfer un o wobrau pwysicaf y diwydiant teithio.
Cyrhaeddodd y maes awyr restr fer gwobr Maes Awyr y Flwyddyn yng Ngwobrau Teithio TTG, sy’n cael eu cynnal gan brif bapur newydd y diwydiant, Travel Trade Gazette.
Meddai Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd: "Cydnabyddir Gwobrau Teithio TTG fel y nod cydnabyddedig i gyrchu ato o fewn y diwydiant teithio. Rydym yn hynod o falch o fod ar y rhestr fer yng nghwmni ymgeiswyr eraill o safon mor uchel."
Ychwanegodd golygydd TTG, Daniel Pearce: "Yn wyneb y cymylau llwch, streiciau gan staff cwmnïau awyrennau a’r dirwasgiad byd-eang, dangosodd gwmnïau teithio gorau’r DU eu gwir rinweddau, a chawsom ein syfrdanu gan ansawdd yr ymgeiswyr eleni. Mae’r cyfuniad unigryw sydd gennym o bleidleisio gan drefnwyr teithiau ynghyd â beirniadu gan arbenigwyr yn y diwydiant yn sicrhau fod Gwobr TTG yn nodi gwir ragoriaeth yn y byd teithio. Rydym am longyfarch pawb a lwyddodd i gyrraedd ein rhestr fer hynod gystadleuol."
Ymhlith beirniaid y gwobrau bydd arbenigwyr o’r prif gwmnïau teithio a sefydliadau’r diwydiant megis Thomas Cook, Sandals a’r Sefydliad Teithio a Thwristiaeth, yn ogystal â phobl allweddol o’r byd masnach a mân-werthu.
Cyhoeddir enillwyr eleni mewn seremoni ysblennydd yng Ngwesty Grosvenor House yn Llundain ar 23 Medi.