Dathliad annisgwyl i gyflwynydd radio
Cyhoeddwyd: 16 Mai 2010
Dathlodd Steve Powell, rheolwr gorsaf Radio Bro, ei ben-blwydd yn 50 mewn steil yr wythnos ddiwethaf gydag ymweliad annisgwyl â Maes Awyr Caerdydd er mwyn darlledu ei raglen foreol yn fyw o’r derfynfa.
Tra ar ei ffordd i’r gwaith yn ei stiwdio arferol ym mhencadlys Radio Bro yn yr HUB yn adeilad YMCA yn Y Barri, cafodd Steve alwad ffôn yn fyw ar yr awyr gan y cyflwynydd Matthew Wilson yn gofyn iddo droi’n ôl ac anelu am y maes awyr. Dathlodd y cyflwynydd, sydd â diddordeb brwd mewn hedfan, ei ben-blwydd drwy chwarae cerddoriaeth yn y derfynfa a sgwrsio gyda theithwyr oedd ar eu ffordd i leoliadau mwy heulog.
Rhoddwyd teisen ben-blwydd i’r cyflwynydd yn ystod y rhaglen a chafodd fynd ar daith y tu ôl i’r llenni yn dilyn y rhaglen, gan gynnwys ymweliad â thŵr rheoli traffig awyr y maes awyr er mwyn cyfarfod â thîm NATS sy’n goflau am Gaerdydd.
Meddai Steve am ei ymweliad: "Fe wnes i fwynhau’r amser yn y maes awyr yn fawr iawn ac roedd yn wych rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a darlledu’n fyw o leoliad mor anarferol.
Mae gen i ddiddordeb angerddol yn y byd hedfan ac felly roeddwn wedi gwirioni pan gefais yr alwad i anelu am y maes awyr. Roedd yn syrpreis anhygoel ac yn ffordd ardderchog i ddathlu 'mhen-blwydd gyda’n holl wrandawyr."
Ychwanegodd Rheolwr Marchnata a Cysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd, Cassie Houghton: "Roedd yn wych cael rhannu’r dathlu gyda Steve. Roedd cael gorsaf radio yn darlledu’n fyw o’r derfynfa yn cynnig rhywbeth gwahanol i’n teithwyr ac i wrandawyr yng nghymuned y maes awyr ac roeddem wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’r rhaglen."
Dechreuodd Radio Bro ddarlledu ar 31 Mawrth 2009, gan gyflwyno cymysgedd o gerddoriaeth a sgwrs ar gyfer Bro Morgannwg. Mae’r orsaf yn cyrraedd gwrandawyr yn Y Barri, Penarth ynghyd â mannau eraill yn y Fro.