Maes awyr yn rhoi gwers iaith i ysgol leol
Cyhoeddwyd: 20 Gorffennaf 2011
Cafodd 16 o ddisgyblion o Ysgol Bryn Hafren gyfle i gael taith o gwmpas Maes Awyr Caerdydd ym mis Gorffennaf fel rhan o gynllun cyfredol rhwng y maes awyr a’r ysgol leol.
Roedd yr ymweliad yn rhan o gynllun "Hyrwyddwyr Iaith Mewn Busnes" a sefydlwyd gan CILT Cymru gyda’r nod o annog disgyblion i astudio ieithoedd tramor modern hyd at lefel TGAU ac ymhellach. Sefydlwyd y cynllun fel ymateb i’r dirywiad yn y niferoedd a safon sgiliau ieithyddol sydd ar gael yn y DU.
Mae’r prosiect hefyd yn annog cwmniau i ymuno’n weithredol mewn partneriaethau sy’n canolbwyntio ar ddysgu ieithoedd, gan ofyn i’r busnesau rannu eu profiadau gyda disgyblion er mwyn rhoi syniad iddyn nhw o’r modd y gall siarad iaith dramor fod o fantais ym myd busnes.
Bu cynrychiolwyr amlieithog o’r maes awyr yn ymweld â’r ysgol i drafod y manteision o allu siarad ieithoedd amrywiol o fewn y diwydiant hedfan, a chynhaliwyd arolwg gan staff wedi’u lleoli yn y maes awyr yn holi pa ieithoedd oeddent yn medru siarad ac os oedd yn fanteisiol i siarad ieithoedd eraill yn y gweithle.
Gosodwyd tasg i’r disgyblion i ddadansoddi’r arolygon a chyflwyno’r casgliadau i gynrychiolwyr o’r maes awyr a’u cyd-ddisgyblion, ac i gynnal gwers iaith yn dysgu ymadroddion Ffrangeg a Sbaeneg defnyddiol a allai gael eu defnyddio gan staff sy’n ymdrin â chwsmeriaid yn feunyddiol yn y maes awyr.
Cafodd y grwpiau buddugol, a ddewiswyd gan y maes awyr, ymweld â lleoliadau amrywiol gan gynnwys y tŵr rheoli awyrennau, yr ardal gofrestru i weld y dulliau gweithredu, yr orsaf dân, a chafwyd sgwrs gan y tîm diogelwch a golwg ar sut mae’r maes awyr yn darparu gwasanaethau i’r cwsmer.
Dywedodd Margaret James, Rheolwr Cytundebau ac Ansawdd Maes Awyr Caerdydd: “Buom yn cydweithio gyda Bryn Hafren a CILT Cymru ar brosiect iaith ers nifer o flynyddoedd; serch hynny newidiwyd y pwyslais eleni er mwyn canolbwyntio ar y modd y gall siarad ieithoedd amrywiol fod o fudd i staff sy’n ymdrin â chwsmeriaid. Roedd y profiadau personol a ddisgrifiwyd gan staff y maes awyr yn yr arolygon yn ein galluogi ni i ddangos i’r disgyblion fod siarad ieithoedd eraill yn gallu dod â manteision beunyddiol yn y gweithle.
Unwaith eto, gwnaeth y brwdfrydedd a’r safonau uchel a ddangoswyd gan y disgyblion tuag at y dasg a osodwyd greu gryn argraff arnom ni, ac rydym yn edrych ymlaen at gael datblygu’r berthynas ymhellach gyda Bryn Hafren dros y blynyddoedd nesaf.”
Ychwanegodd Danielle Perry, athrawes ieithoedd tramor modern yn Bryn Hafren: “Bu’r bartneriaeth gyda Maes Awyr Caerdydd yn llwyddiannus iawn eto eleni, a chafodd y disgyblion bleser wrth weithio ar ddwy elfen y dasg.
Cafodd y prosiect effaith gadarnhaol ar y niferoedd a ddewisodd astudio ieithoedd tramor modern yn yr ysgol, gyda dros 150 disgybl yn dewis astudio iaith hyd at lefel TGAU y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd y disgybl buddugol, Bethan Gould o Bryn Hafren, am yr ymweliad: “Wnes i fwynhau’r diwrnod yn y maes awyr yn fawr iawn am ei fod mor ddiddorol gweld yr holl swyddi amrywiol sydd ar gael. Rydw i nawr yn gwybod fod ieithoedd yn ddefnyddiol iawn i’w cael wrth geisio am swyddi a drwodd a thro roedd yr ymweliad yn brofiad gwerthfawr.”
Ychwanegodd Chloe Davies, disgybl arall a lwyddodd gael lle ar yr ymweliad: “Dangosodd yr ymweliad yma i mi pa mor bwysig ydy dysgu ieithoedd a’r holl swyddi sydd ar gael os ydych yn medru ieithoedd gwahanol. Rydw i’n falch ‘mod i wedi cael y cyfle i fynd yno!”
Ychwanegodd Bethan Enticott o CILT Cymru: "Mae’r hyn a gyflawnwyd drwy’r cynllun yma yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’r disgyblion wedi llwyr ymroi i’r cynllun ac wedi’u hysbrydoli i barhau astudio ieithoedd. Diolch i’r maes awyr, mae’r disgyblion yn sylweddoli fod gwir bwrpas i ieithoedd tramor. Rhaid talu teyrnged i’r maes awyr yn ogystal â’r disgyblion, athrawon a myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern am eu cyfraniad amhrisiadwy."