Merch Pêl Lwcus y Loteri Genedlaethol yn gobeithio am Jacpot dwbl i Gymru
Cyhoeddwyd: 17 Mawrth 2011
Roedd ‘merch pêl lwcus’ y Loteri Genedlaethol, sef y Miss Cymru bresennol, Courtenay Hamilton, yn dymuno dogn dwbl o lwc i gefnogwyr rygbi Cymru wrth iddi rannu tocynnau ym Maes Awyr Caerdydd heddiw (dydd Iau 17 Mawrth) ar gyfer Jacpot yr EuroMillions ddydd Gwener yma fydd werth y swm anhygoel o £90 miliwn*.
Roedd y cefnogwyr rygbi oedd yn hedfan i Baris ar gyfer brwydr Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad ddydd Sadwrn yn gobeithio cael jacpot ar ac oddi ar y cae wrth iddyn nhw dderbyn tocynnau gan y ferch brydferth Gymreig.
Mae Cymru eisoes yn gwisgo mantell ‘tîm mwyaf lwcus y bencampwriaeth’ yn dilyn ‘y cais nad oedd yn gais’ a gurodd y Gwyddelod yr wythnos ddiwethaf. Mae Cymru a’i chefnogwyr yn croesi’u bysedd y gallant guro Ffrainc yn gyffyrddus ym Mharis ddydd Sadwrn gan obeithio y bydd Iwerddon yn maeddu Lloegr o sgôr sylweddol er mwyn i Gymru ennill Pencampwriaeth y 6 Gwlad.
Pe bai cefnogwr o Gymro yn ennill y jacpot cyfan ddydd Gwener yma, byddai yn neidio’n syth i’r ail safle yn rhestr pobl gyfoethog y Loteri Genedlaethol, ychydig y tu ôl i’r unigolyn anhysbys enillodd £113 miliwn y llynedd.
Yn ôl rhestr cyfoethogion 2010 y Sunday Times, byddai mor gyfoethog â George Michael (£90 miliwn), cyfoethocach na Robbie Williams (£85 miliwn) ac yn werth dwbl ffortiwn y fodel Kate Moss (£43 miliwn). Er hynny, byddai gryn dipyn o waith ganddo i gystadlu â’r Cymry byd-enwog Syr Tom Jones (£130 miliwn) a Catherine Zeta Jones (£195 miliwn).
Bu’n ddwy flynedd anhygoel i’r rhai sy’n chwarae’r EuroMillions yma yn y DU. Ers Mehefin 2009, enillodd pobl o Brydain y jacpot EuroMillions 14 o weithiau – nifer syfrdanol. Ymhlith enillwyr lwcus y cyfnod yma oedd Nigel Page a enillodd £56 miliwn yn Chwefror 2010, Les Scadding a enillodd £45 miliwn yn Nhachwedd 2009 ac wrth gwrs enillydd y swm mwyaf erioed ar y loteri yn y DU, yr unigolyn anhysbys a enillodd £113 miliwn ym mis Hydref y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn croesi’n bysedd y bydd yr enillydd dydd Gwener yma o’r DU – os enillir y jacpot yn y DU, hon fyddai’r wobr loteri ail fwyaf erioed i’w hennill a byddai’r enillydd nid yn unig yn gallu trawsnewid ei fywyd ei hun ond hefyd fywydau ei gyfeillion a’i deulu.
“Yn ogystal â’r cyfle i ennill y swm syfrdanol a amcangyfrifir fydd yn £90 miliwn, drwy chwarae EuroMillions mae pobl hefyd yn helpu i godi arian at Achosion Da ym mhob cwr o’r DU”
Mae EuroMillions wedi trosglwyddo ymlaen bump o weithiau i gyrraedd y jacpot o £90 miliwn. Pe bai neb yn llwyddo cael y pum prif rif a’r ddau rif Seren Lwcus ddydd Gwener i ennill jacpot yr EuroMillions, yna trosglwyddir y swm ymlaen i’r wythnos ganlynol (dydd Gwener 25 Mawrth).
*Amcangyfrif yw’r Jacpot, yn amodol ar amrywiadau ariannol.