Croeso Cymreig i wasanaeth awyr o’r Swistir
Cyhoeddwyd: 08 Chwefror 2011
Heddiw bydd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn croesawu Llysgennad y Swistir a chynrychiolwyr o Faes Awyr Caerdydd a chwmni awyr Helvetic Airways o’r Swistir, sydd yng Nghymru ar gyfer lansiad gwasanaeth awyrennau newydd rhwng Caerdydd a Zurich.
Bydd Mr Jones, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn croesawu’r gwesteion sy’n cynnwys swyddogion gweithredol o Helvetic Airways a Maes Awyr Caerdydd, yn ogystal ag Anton Thalmann, Llysgennad y Swistir ym Mhrydain, i Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Cynhelir derbyniad i lansio’r gwasanaeth newydd a chydnabod y cysylltiadau unigryw sydd rhwng y ddwy genedl.
Meddai Mr Jones, "Mae’n bleser mawr gennyf groesawu ei Ardderchogrwydd y Llysgennad yma heddiw, yn ogystal â’n cyfeillion o Helvetic, a fydd yn darparu’r gwasanaeth newydd a chyffrous rhwng Zurich a Maes Awyr Caerdydd. Dw i hefyd yn edrych ymlaen at groesawu llu o dwristiaid a busnesau newydd i’n gwlad bob blwyddyn.
“Mae Cymru yn lle deniadol i sefydlu busnes, ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau i ffynnu. Rydyn ni wedi gweithio’n galed yn y blynyddoedd diwethaf i greu cysylltiadau cryf rhwng ein dwy genedl. Mae llawer o gwmnïau o’r Swistir eisoes wedi ymsefydlu yma, a bydd y lansiad heddiw yn siŵr o gryfhau’r cysylltiadau ymhellach.
Dywedodd Bruno Jans, Prif Weithredwr Helvetic Airways AG, “Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r cysylltiad uniongyrchol rhwng Zurich â Chaerdydd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn galluogi twristiaid o’r Swistir i ddarganfod Cymru a chynnig cyswllt cyfleus i deithwyr busnes o Gymru a’r Swistir.
“Edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid Cymreig a dangos iddyn nhw’r safon, cysur ac ansawdd Swisaidd uchel o’r gwasanaeth ar fwrdd ein hawyrennau.”
Dywedodd Llysgennad y Swistir yn y Deyrnas Gyfun, Mr Anton Thalmann, “Rydw i’n falch iawn o fod yma heddiw i ddathlu cryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng y Swistir a Chymru. Yn ddi-os bydd y cysylltiad uniongyrchol newydd rhwng Caerdydd a Zurich yn dyfnhau’r cyfnewid masnachol, Helvetic Airways bob llwyddiant yn yr ymdrech newydd hon. "
Dywedodd Patrick Duffy, rheolwr gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, “Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu cynrychiolwyr Helvetic i Gymru ar gyfer y digwyddiad hwn ac yn edrych ymlaen at gychwyn y gwasanaeth.
“Bydd y llwybr newydd yn cynnig ffordd gyflym a hwylus i gyrraedd un o’r canolfannau mwyaf atyniadol yn Ewrop, gydag ymchwil gan y maes awyr a’r cwmni yn dangos bod Zurich ymhlith y cyrchfannau busnes mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y llwybr newydd yn llwyddiant gyda theithwyr sy’n ymadael â Chymru, a chyda’r rhai sy’n dod o’r Swistir i ymweld â’r wlad ar gyfer dibenion busnes neu hamdden.”
O fis Mawrth eleni, bydd teithwyr yn gallu hedfan yn syth o Gaerdydd i Zurich bedwar diwrnod yr wythnos. Bydd awyrennau’n hedfan o Gaerdydd ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener.
Bydd y gwasanaeth yn defnyddio awyrennau Fokker sydd â chant o seddi ynddynt. Dyma fydd y tro cyntaf yn hanes y maes awyr i awyrennau hedfan yn syth i Zurich. Bydd hwn yn wasanaeth unigryw i ddenu teithwyr sy’n teithio i Gymru ac o Gymru, yn ogystal â de-orllewin Lloegr.
Mae Zurich yn llawer mwy na phrifddinas y banciau. Mae’n lle rhagorol i fynd ar wyliau ac mae’n hawdd teithio oddi yno i’r Alpau a llynnoedd gogledd yr Eidal.
Bydd Helvetic Airways yn gwerthu tocynnau o £99 am docyn unffordd, gan gynnwys yr holl drethi a chostau am gyfnod penodol.
Gallwch brynu tocynnau ar-lein trwy fynd i www.helvetic.com.