Cardiff Airport

Newyddion

Enterprise yn agor cangen newydd ym Maes Awyr Caerdydd

Cyhoeddwyd: 01 Chwefror 2011

Mae prif gwmni llogi ceir y DU, Enterprise Rent-A-Car, newydd agor lleoliad wedi’i godi’n bwrpasol ym Maes Awyr Caerdydd, fel rhan o’i ymrwymiad i ddatblygu’i rwydwaith o safleoedd mewn meysydd awyr a’i wasanaeth i gwsmeriaid.

Y gangen newydd, sydd mewn man cyfleus ar y safle rhyw 3 munud ar droed o’r derfynfa, yw’r ychwanegiad diweddaraf i rwydwaith Enterprise mewn meysydd awyr, sy’n cynnwys canghennau ar safleoedd pymtheg o brif feysydd awyr y DU ac Iwerddon. Mae hefyd yn rhan o rwydwaith ehangach Enterprise o dros 350 lleoliad ar hyd a lled y DU – y rhwydwaith llogi cerbydau mwyaf yn y wlad. Yn wir, mae tri chwarter poblogaeth y DU o fewn pum milltir i gangen o eiddo Enterprise.

Bydd safle cyfleus, newydd y gangen, sy’n agos at y derfynfa, yn rhoi cyfle i deithwyr gwyliau ynghyd â rhai busnes i fanteisio ar y dewis eang o geir a cherbydau masnach ysgafn sydd gan Enterprise i’w gynnig.  

Meddai Pete Caltabiano, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarth Cymru a’r De Orllewin: “mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i Enterprise yng Nghaerdydd. Roedd lleoliad yr hen gangen oddi ar y safle, a arferai wasanaethu Maes Awyr Caerdydd, yn llai cyfleus i’n cwsmeriaid; mae’r gangen newydd ar y safle yn caniatáu i ni ddarparu gwell gwasanaeth i’n holl gwsmeriaid, teithwyr gwyliau a rhai ar fusnes.”

Gan ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd y gwasanaeth a gynigir i’r holl gwsmeriaid, mae’r gangen newydd wedi’i lleoli o fewn pellter cerdded o’r derfynfa ac mae ei gwedd allanol amlwg yn gymorth i gwsmeriaid wybod i ble i ddychwelyd eu cerbydau. Mae’r lleoliad newydd hefyd yn golygu bod Enterprise Rent-A-Car wedi cwtogi o 30 munud yr amser cludo cwsmeriaid nôl ac ymlaen i’r maes awyr.

Wrth gloi, dywedodd Pete Caltabiano; “Rydym yn rhoi pwys mawr ar fod yn agos at ein cwsmeriaid gan gynnig gwasanaeth sydd mor gyfleus â phosib iddyn nhw; nod y mae’r gangen newydd yma’n helpu ni ei gyrraedd.”

Ychwanegodd Margaret James, Rheolwraig Contractau a Safonau Maes Awyr Caerdydd, “Rydym yn falch iawn o gael croesawu Enterprise i’r maes awyr gan y bydd eu presenoldeb yn gwella ein darpariaeth llogi ceir i deithwyr sy’n ymweld â Chymru, gan wella’r dewis a’r cyfleustra i deithwyr.” 

Mae Enterprise yn cynnig llogi ar raddfa ddyddiol neu benwythnos ar gyfer defnydd preifat neu fusnes ac mae’n arbenigo mewn darparu cerbydau wrth gefn neu geir cwrteisi, sy’n angenrheidiol yn dilyn damwain. Mae hefyd yn cynnig gollwng neu gasglu cerbyd, ynghyd â gwasanaeth arloesol, rhad ac am ddim i hebrwng cwsmeriaid.

News menu