Cardiff Airport

Newyddion

Teithiau uniongyrchol o Gaerdydd i Madeira gyda Atlantic Holidays

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2011

Bydd Atlantic Holidays yn gweithredu taith o Faes Awyr Caerdydd i Madeira yn ystod haf 2011, gan gynnig cyswllt i deithwyr o dde Cymru â’r ynys Bortiwgeaidd o’u maes awyr lleol.

Bydd y teithiau yn digwydd ar 22 Awst 2011, a’r prisiau yn dechrau o £499 am 7 noson Gwely a Brecwast yng ngwesty 3* Estrelicia sy’n cynnwys y daith, cludiant nôl a mlaen i’r gwesty a threthi.

Tarddiad folcanig sydd i ynys Madeira ond yn wahanol i weddill yr ynysoedd cyfagos mae Madeira yn ffrwythlon ac yn ir, gan gynnig hinsawdd cynnes ac adnoddau amaethyddol cyfoethog. Mae gan yr ynys rywbeth at ddant pawb, o’r parciau a’r gerddi rhyfeddol i ‘r môr clir fel grisial a’i glogwyni serth, ac o’r pentrefi gwledig mewn dyffrynnoedd tawel i’r mynyddoedd serth gyda’u golygfeydd syfrdanol.

Meddai Dino Toouli, Rheolwr Gwerthu a Marchnata Atlantic Holidays “Rydym yn hynod falch o gael ychwanegu Maes Awyr Caerdydd at ein portffolio ac rydym yn hyderus y bydd  Madeira yn hynod o boblogaidd gyda’r bobl sy’n byw o fewn y dalgylch. Byddwn yn dynodi awyren A320 Monarch Airlines yn benodol i weithredu’r daith yma ar ran Atlantic Holidays”

Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan a Gweithrediadau Masnachol Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn croesawu Atlantic Holidays yn ôl i Faes Awyr Caerdydd ac i dde Cymru. Mae teithwyr o Gymru wedi datgan eu bod yn awyddus i gael teithiau i Madeira o’u maes awyr lleol ac rydym wedi bod yn cydweithio gyda Maes Awyr  Funchal i annog Atlantic Holidays i gynnig y gwasanaeth.

Mae’r cwmni yn profi’r farchnad i weld beth yw’r galw drostynt eu hunain, ac felly hyderwn y bydd y gwasanaeth yn llwyddiant er mwyn annog y cwmni i gynnig mwy o deithiau o Gaerdydd i Madeira yn y dyfodol.”

I archebu cysylltwch â Atlantic Holidays ar 01452 381 888 neu ewch i’n gwefan  www.atlanticholidays.net/cwl.

News menu