Gwirfoddolwyr yn glanio ym Maes Awyr Caerdydd
Cyhoeddwyd: 10 Ionawr 2011
Bydd cynllun achub bywyd gwirfoddolwyr ambiwlans cenedlaethol yn ymweld â maes awyr cenedlaethol Cymru eleni.
Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn arddangos ei gynllun Ymatebwyr Cymunedau’n Gyntaf ar y llain lanio gan deithio yn syth i galon Maes Awyr Caerdydd.
Mae timau o ymatebwyr cymunedau’n gyntaf ar gael ar hyd a lled Cymru, grwpiau o bobl o bob oed a ddefnyddiodd eu profiadau i ddysgu sgiliau clinigol newydd er mwyn helpu eu cyd-ddyn.
Cânt eu hyfforddi i gyd gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, fel rheol gan gynrychiolydd o’r gwasanaeth rheng flaen yn ardal leol y tîm.
Mae pob gwirfoddolwr sy’n cofrestru i fod yn ymatebwr gweithredol cyntaf yn dysgu sut i roi cymorth cyntaf sylfaenol, gallu adnabod cyflyrau’r galon, adfywio’r galon a’r ysgyfaint a defnyddio diffibriliwr yn y gymuned ar ardal gyfagos nes bydd adnodd ambiwlans yn cyrraedd y digwyddiad ac yn cymryd yr awenau.
Glaniodd Swyddog Ymatebwyr Cyntaf Rhanbarth y De Ddwyrain, Tony Rosetti ac Ymatebwr Cymunedau’n Gyntaf Y Barri, Bryan Foley yn y maes awyr i roi cipolwg i’r gymuned brysur o’r hyn y gobeithir ei gyflawni gyda’r cynllun gwirfoddol ar y safle.
“Mae Maes Awyr Caerdydd yn gwasanaethu yn agos at ddwy filiwn o deithwyr y flwyddyn, felly gallwch ddychmygu bod cymuned eitha prysur yma bob dydd,” meddai Tony.
“Mae bron fel symud poblogaeth pentref neu dref i’r safle, a gan bod gennym dimau o bobl yn gofalu am bobl yn eu mewn gwlad a thref, roeddem yn teimlo fod y maes awyr i’r dim i wirfoddolwyr gael gofalu am y gymuned yn yr adeilad.”
Ychwanegodd Tony: “Rydym yn gobeithio cael tîm gweithredol yma yn fuan er mwyn cynnig ymateb cyntaf gwerthfawr i deithwyr a gweithwyr sy’n wynebu afiechydon bygwth bywyd. Y cyflymaf y bydd sgiliau cynnal bywyd yn cyrraedd y claf, y gorau fydd yr argoelion, sy’n brognosis a gefnogir gan bob ymatebwr cyntaf.”
Ychwanegodd Marie Boxall, Cydlynydd Ymatebwyr Cyntaf Maes Awyr Caerdydd, “Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun Ymatebwyr Cyntaf yn y maes awyr ac wedi’n calonogi fawr gan y diddordeb ddangoswyd gan staff o bob cwmni i gyfrannu. Roedd cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhoi i’n tîm nid yn unig y sgiliau priodol ond hefyd yr hyder i ymateb pan fo gofyn i wneud hynny.”