Caerdydd i Gernyw mewn hanner awr gydag Air Southwest!
Cyhoeddwyd: 04 Ionawr 2011
Lansiodd Air Southwest ei wasanaeth dyddiol o Gaerdydd i Gernyw gan ddod ag un o leoliadau gwyliau gorau’r DU o fewn ond hanner awr o daith.
Mae Air Southwest wedi dechrau hedfan o Gaerdydd i Faes Awyr Newquay Cernyw, sydd ond tafliad carreg o rai o draethau nofio a syrffio gorau Ewrop, ac yn agos at atyniadau eiconig megis yr Eden Project, Tate St Ives a Land’s End.
Meddai Mike Coombes, Cyfarwyddwr Masnachol Air Southwest: “Mae gan Gernyw gymaint i’w gynnig drwy’r flwyddyn gron ac rydym yn hynod falch ein bod wedi dechrau’r gwasanaeth newydd yma o Gaerdydd i Newquay, sef prifddinas syrffio’r DU.
“Mae’n taith ddyddiol yn para ychydig dros hanner awr, sy’n arbed mwy na thair awr oddi ar yr un daith ar yr ffordd. Ac mae’r cyswllt rhyngom â’n partner llogi car Avis yn cynnig pecynnau hedfan a gyrru gwych fel y gall pobl fwynhau gwyliau byr a darganfod y cyfan sydd gan Cernyw i’w gynnig.”
Ychwanegodd Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn falch o gael croesawu Air Southwest i Faes Awyr Caerdydd gan obeithio y bydd y gwasanaeth i Newquay yn llwyddiant ysgubol.
“Mae’r gwasanaeth yn ychwanegiad i’w groesawu at rwydwaith teithiau’r maes awyr ac mae’n darparu dewis amgen i’r daith hir ar drên, neu mewn bws neu gar, ar gyfer teithwyr hamdden a busnes yn ne Cymru ac yng Nghernyw.”
Yn enwog am ei olygfeydd syfrdanol, mae Cernyw yn parhau yn un o’r lleoliadau gwyliau mwyaf poblogaidd yn y DU; yn baradwys gastronomaidd gan fod Seafodd Restaurant enwog Rick Stein a Fifteen a ysbrydolwyd gan Jamie Oliver ill dau ond ychydig o filltiroedd o Faes Awyr Newquay.
Croesawyd y teithiau newydd gan Malcolm Bell, Pennaeth VisitCornwall, a ddywedodd: “Mae hedfan wedi helpu i chwyldroi y farchnad gwyliau byr yn y blynyddoedd diweddar a ‘does gen i ddim amheuaeth y bydd y gwasanaeth newydd o Gaerdydd yn denu mwy o ymwelwyr i Gernyw, yn arbennig yn dilyn y cynnydd yn y nifer sy’n aros o fewn y DU i gymryd eu gwyliau.”
Gellir archebu teithiau Air Southwest o Gaerdydd i Newquay ar www.airsouthwest.com. Mae’r prisiau di-lol yn cynnwys yr holl drethi a chostau a lwfans bagiau hael.