Maes awyr i gyflwyno gwasanaeth troli newydd
Cyhoeddwyd: 09 Rhagfyr 2010
Bydd gwasanaeth trolïau bagiau newydd yn cael ei gyflwyno ym Maes Awyr Caerdydd ar 16 Rhagfyr 2010. Bydd y cwmni o Gasnewydd, Airport Cart Service (ACS) Cyf, yn cyflenwi ac yn gweithredu’r gwasanaeth troli.
Bydd y trolïau newydd o ansawdd uchel sydd yn hawdd i’w defnyddio yn disodli’r hen offer ac yn gwella’r gwasanaeth presennol i bobl sy’n teithio drwy’r maes awyr.
Gall teithwyr ddefnyddio’r trolïau newydd drwy dalu ffi o £2 na chaiff ei ad-dalu. Ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn derbyn unrhyw incwm o’r ffi yma.
Meddai Margaret James, Rheolwr Ansawdd a Chytundebau Maes Awyr Caerdydd, "Ein nod yw i wella’r gwasanaeth troli i’r rhai sy’n teithio drwy’r maes awyr, ac er mwyn gwneud hynny rhaid disodli’r trolïau presennol. Rydym yn gweithio gyda’r cwmni arbenigol ACS Cyf i gynnig i’n cwsmeriaid y cynnyrch a’r gwasanaeth o’r ansawdd gorau sydd ar gael, ac i wella’r profiad i gwsmeriaid sy’n teithio i mewn ac allan o Gymru drwy ei maes awyr cenedlaethol.
"Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd yn nefnydd cesys gydag olwynion gyda’r canlyniad bod llai o alw am drolïau, yn enwedig mewn maes awyr bychan, cyfleus fel Caerdydd. Er bod llai o alw mae’n bwysig darparu trolïau safonol i’r sawl sy’n dymuno eu defnyddio."
Bydd y cynllun newydd yn golygu y bydd Maes Awyr Caerdydd yn gydnaws â nifer o feysydd eraill rhyngwladol ac yn y DU, gan gynnwys Bryste a Birmingham, sydd hefyd yn codi tâl am eu trolïau er mwyn darparu gwell gwasanaeth trolïau i’w teithwyr. Mae gwasanaeth masnachol hefyd yn sicrhau y bydd niferoedd y trolïau yn cael eu cynnal ac y bydd safon yr offer yn uchel.
Ychwanegodd Mrs James, "Mae cost ynghlwm â’r gwasanaeth newydd, gwell; cost y bydd yn ofynnol i ACS Cyf ei adennill."
Gall teithwyr sydd angen cymorth arbennig yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr archebu gwasanaeth ar wahân ymlaen llaw gyda’u trefnwyr teithiau, cwmnïau awyrennau neu yn uniongyrchol gyda Maes Awyr Caerdydd drwy ffonio 01446 729329 neu drwy e-bostio PRMDesk@cwl.aero.