Cardiff Airport

Newyddion

Manx2.com yn ennill contract Cyswllt Awyr Cymru

Cyhoeddwyd: 03 Rhagfyr 2010

Contract newydd pedair blynedd ar gyfer darparu'r gwasanaeth awyr rhwng y De a’r Gogledd

Heddiw (dydd Gwener 3 Rhagfyr), cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru mai Manx2.com a’i bartner FLM Aviation fydd yn darparu’r gwasanaeth awyr rhwng y De a’r Gogledd am y pedair blynedd nesaf.

Ar hyn o bryd, gwasanaeth dros dro sy’n cael ei ddarparu ganddynt. Mae awyrennau’n hedfan ddwywaith i bob cyfeiriad bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cafodd Manx2.com ac FLM Aviation eu penodi am gyfnod dros dro ym Mis Mai eleni.

Mae'r contract newydd yn dechrau ar 13 Rhagfyr, ac mae seddi ar werth o heddiw ymlaen ar wefan Manx2.com www.manx2.com.  Mae prisiau seddi yn 2011 yn cychwyn o £19.95 un ffordd.

Ym mis Gorffennaf eleni, fel sy'n ofynnol o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, dechreuodd proses dendro i ddod o hyd i ddarparwr hirdymor.

Meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones,

"Mae'r gwasanaeth awyr hwn, sy’n cysylltu'r De a'r Gogledd, wedi bod yn wasanaeth effeithlon, dibynadwy a phoblogaidd. Ers iddo ddechrau darparu’r gwasanaeth yn gynharach eleni, mae Manx2 wedi profi ei fod yn gallu rhoi gwerth am arian a darparu’r math o wasanaeth yr ydyn ni’n chwilio amdano. Roedden ni’n benderfynol o gynnal y gwasanaeth pwysig hwn sydd wedi bod mor boblogaidd gyda theithwyr. Mae wedi creu cysylltiadau rhwng y De a’r Gogledd, gan ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Manx2.com Dylan Evans: "Mae'n wych cael cynnig y gwasanaeth cymunedol hwn yn fy nghartref brodorol yng Nghymru. Cefais fy ngeni a'm magu yn Aberteifi, ac mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i mi, ac felly rwy'n deall yn iawn bod galw am wella cysylltiadau yng Nghymru, a bydd tîm Manx2.com yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn llwyddiant ysgubol. Mae Manx2.com yn gwmni Celtaidd sydd wedi ennill gwobrau, a gall ein teithwyr fod yn hyderus y bydd fy ngwreiddiau o wlad y gân yn cael lle blaenllaw ar bob taith hedfan. Rydym yn edrych ymlaen at fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau, ac rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o ddatblygiadau cyffrous yn 2011."

Meddai'r Cadeirydd, Noel Hayes,

"Fel cymydog Celtaidd, mae Manx2.com wrth ei fodd o gael ei ddewis i barhau â'r gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Yn ddi-os, mae ein gwasanaeth awyr, sy’n hanfodol i’r gymuned, wedi bod yn ddibynadwy ac yn brydlon. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn effeithlon a bod ein prisiau’n gystadleuol. Mae hyn i gyd wedi ein helpu i ennill y contract pedair blynedd hwn. O gofio bod ein gwasanaeth wedi ennill gwobrau a bod ein cartref ar Ynys Manaw dim ond 50 milltir i ffwrdd dros Fôr Iwerddon, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol."

Mae dros 40,000 o deithwyr wedi defnyddio'r gwasanaeth awyr rhwng y De a’r Gogledd ers iddo ddechrau ym mis Mai 2007. Mae Manx2 wedi’i benodi i ddarparu’r gwasanaeth am bedair blynedd, gyda chymorth gwerth £1.2 miliwn y flwyddyn oddi wrth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

News menu