Cardiff Airport

Newyddion

Munich

bmibaby yn dathlu dechrau gwasanaeth newydd o Gaerdydd

Cyhoeddwyd: 01 Tachwedd 2010

Mae bmibaby yn dathlu dechrau eu gwasanaeth newydd o Faes Awyr Caerdydd i Munich, a fydd ar gael o 31 Hydref 2010.

bmibaby fydd yr unig gwmni pris isel fydd yn gweithredu’r gwasanaeth yma o Faes Awyr Caerdydd.

Bydd y cwmni pris isel yn gweithredu hyd at dair taith bob wythnos rhwng Caerdydd a Munich, y ddinas drydedd o ran maint yn yr Almaen.

Gyda lansio amserol y marchnadoedd Nadolig enwog yn Munich ar y gorwel, mae bmibaby yn disgwyl cario dros 10,000 o deithwyr ar y gwasanaeth newydd dros dymor y gaeaf.  Bydd prisiau isel y cwmni i Munich yn sicrhau y bydd y gwasanaeth yma’n boblogaidd gyda theithwyr busnes a hamdden hefyd.

Ar hyn o bryd yn dathlu wyth mlynedd o hedfan o Faes Awyr Caerdydd, dywedodd Julian Carr, Rheolwr Gyfarwyddwr, bmibaby: “ Rydym yn hynod falch o gael ychwanegu Munich i’n rhwydwaith o deithiau o Faes Awyr Caerdydd.  Mae Munich yn ddinas gosmopolitan a gan nad oes gwasanaeth i’r Almaen ar hyn o bryd o’r ardal, mae Munich yn ddelfrydol ar gyfer teithwyr busnes yn ogystal â theithwyr hamdden. 

"Bydd y llwybr newydd yma’n caniatáu i’r ardal ddatblygu perthynas fusnes gref gyda'r Almaen a bydd yn darparu cysylltiadau mawr eu hangen rhwng y rhanbarth a’r Almaen yn ogystal â denu mewnfuddsoddi pwysig.

"Mae'n gyfnod gwirioneddol gyffrous i’r cwmni yng Nghaerdydd gan fod lansio'r gwasanaeth i Munich yn cyd-daro gyda’n wythfed pen-blwydd. Rydym yn falch o allu parhau i gynnig gwasanaeth i fannau cyffrous yn Ewrop i bobl y rhanbarth."

Am wybodaeth bellach am bmibaby neu i archebu ewch i www.bmibaby.com.

News menu