Amserlen haf 2011 lawn Flybe nawr ar gael
Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2010
Prif gwmni awyrennau rhanbarthol yn cyhoeddi llwybrau haf poblogaidd
Cyhoeddodd Flybe, cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop a phrif gludwr mewnol y DU, ei amserlen lawn ar gyfer haf 2011 o Gaerdydd sy’n cynnwys 96 o deithiau wythnosol i nifer helaeth o leoliadau deniadol ar draws y DU ac Ewrop, rhwng 26 Mawrth a 11 Medi 2011.
Bydd teithiau ar gael y ddwy ffordd o Gaeredin, Glasgow, Belffast (City), Paris CDG a Jersey dros dymor yr haf, gyda’r prisiau yn cychwyn o £28.99 un ffordd.
Meddai Mike Rutter, Prif Swyddog Masnachol Flybe: “Cafodd y nifer cyfyngedig o deithiau haf 2011 a gyhoeddwyd rai wythnosau yn ôl groeso arbennig. Mae hyn yn dangos yn glir fod pobl yn awyddus i drefnu gwyliau haf y flwyddyn nesaf gan fanteisio ar y prisiau isaf posibl er mwyn ymestyn yr arian sydd ar gael i’r eithaf yn sgil yr her economaidd barhaol sy’n bodoli y dyddiau yma.
“Mae cwsmeriaid hefyd yn gwybod y gallant gynllunio teithio cost effeithiol ar gyfer yr haf nesaf gyda’r sicrwydd ychwanegol eu bod yn trefnu gyda chwmni awyrennau rhanbarthol sefydledig a enillodd sawl gwobr – un o dri chwmni awyrennau Ewropeaidd yn unig a ddangosodd elw yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Bonws ychwanegol i deithwyr yw’r ffaith ein bod nawr yn gallu cyrraedd ymhellach ar draws Ewrop a gweddill y byd yn dilyn ein cytundeb newydd gydag Air France sy’n golygu fod ein gwasanaeth rhanbarthol cost isel unigryw yn cynnig cyfleustra hynod werthfawr i’n teithwyr."