Cardiff Airport

Newyddion

newcastle

Cyflwyno gwasanaeth i Newcastle ar y Sul

Cyhoeddwyd: 14 Hydref 2010

Mae Eastern Airways yn lansio gwasanaeth newydd ar y Sul o Faes Awyr Caerdydd i Newcastle, a fydd yn cynnig dewis newydd ar y penwythnos i deithwyr busnes a hamdden.

Bydd y gwasanaeth Sul newydd, sy’n cael ei weithredu gan y cwmni awyrennau rhanbarthol, yn dechrau ar 31 Hydref 2010 ac yn ogystal â galluogi teithwyr busnes sy’n anelu am ogledd ddwyrain Lloegr i gael cychwyn cynnar ar fore Llun bydd hefyd o fudd i deithwyr fydd am gael seibiant dros y penwythnos. Mae cyflwyno’r gwasanaeth Sul yma hefyd yn dilyn penderfyniad Flybe i ddod â’u gwasanaeth nhw i ben ar y llwybr yma.

Eisoes mae Eastern Airways yn darparu dau wasanaeth y dydd yn ystod yr wythnos o Gaerdydd i Newcastle; gwasanaeth fu mewn grym ers Ebrill 2006.

Bydd y teithiau Sul yn gadael Caerdydd am 7.05pm, gan gyrraedd Newcastle am 8.10pm, a bydd y gwasanaeth yn gadael Newcastle am 5.35pm, gan gyrraedd Caerdydd am 6.40pm.

Mae Newcastle yn ddinas fywiog, gosmopolitan ac mae gan ogledd ddwyrain Lloegr gysylltiadau busnes cryf gyda de Cymru, yn arbennig felly yn y diwydiannau petrogemegol, fferyllol, cyllid, y gyfraith, yswiriant, cynhyrchu, adeiladau a gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Roger Hage, rheolwr gweithrediadau Eastern Airways: "Bydd ein gwasanaeth newydd ar y Sul yn caniatáu i deithwyr hamdden gymryd gwyliau byr dros y penwythnos neu i ymweld â ffrindiau a pherthnasau yng ngogledd ddwyrain Lloegr gan gyrraedd wedi ymlacio yn dilyn y daith fer. Bydd teithwyr busnes hefyd yn gallu cyrraedd ar y Sul yn barod am gyfarfod cynnar ar fore Llun wedi osgoi siwrne faith mewn car neu ar drên."

Yn ogystal â bod yn ganolbwynt byd diwydiannol gogledd ddwyrain Lloegr, mae Newcastle yn ddinas ddeniadol iawn i dreulio gwyliau byr ynddi, gyda sawl café, bar a bwyty ffasiynol yn ardal y cei.  Yn ogystal â’r pontydd adnabyddus, gan gynnwys Pont y Tyne, mae yno ddatblygiadau arloesol eraill megis yr anhygoel Bont Mileniwm Gateshead dros yr afon Tyne, sy’n cysylltu’r ddinas â Gateshead Quays a Chanolfan Celf Gyfoes BALTIC.

News menu