Cardiff Airport

Newyddion

Ymarfer ymateb mewn argyfwng: 16.10.10

Cyhoeddwyd: 11 Hydref 2010

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn cynnal ymarfer ar gyfer argyfwng ar ddydd Sadwrn, 16 Hydref 2010 rhwng 0900 a thua 1600, a bydd pob un o’r gwasanaethau brys yn cymryd rhan.

Mae’r ymarfer, sy’n hanfodol i gydymffurfio â gofynion trwyddedu yr Awdurdod Hedfan Sifil, yn gyfle i bartneriaid y maes awyr a’r gwasanaethau brys i hyfforddi sut y byddant yn ymateb pe bai argyfwng yn digwydd. 

Bydd amryw o bartneriaid gan gynnwys gweithwyr Maes Awyr Caerdydd, Gwasanaethau Tân Serco, Servisair, ICTS, Emcor, NATS, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans De Cymru yn cymryd rhan. Er mwyn osgoi rhoi braw i deithwyr a chymdogion lleol ni fydd y cerbydau brys sy’n cymryd rhan yn defnyddio eu goleuadau glas yn ystod yr ymarfer. 

Bydd yr ymarfer yn cael ei gynnal yn y prif derfynfa ac yn ardaloedd deheuol y maes glanio, gan ddefnyddio ffyrdd mynediad i’r maes awyr ym mhentref y Rhws.

Bydd y maes awyr ar agor ac yn gweithredu fel arfer yn ystod yr ymarfer.

Rydym yn gobeithio na fydd yr ymarfer yn effeithio ar gymdogion lleol, serch hynny hoffa Faes Awyr Caerdydd ymddiheuro am unrhyw anhwylustod y mae’r hyfforddiant yn ei achosi.

Mae cynnal ymarferion ar gyfer argyfwng yn hanfodol i feysydd awyr, a diogelwch ein staff a’n teithwyr yw ein blaenoriaeth bob amser.

News menu