Newmarket Holidays yn cyhoeddi dwy daith newydd
Cyhoeddwyd: 29 Hydref 2010
Bydd Newmarket Holidays yn cynnig teithiau i ddau leoliad newydd yn uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd yn ystod tymor yr haf 2010.
Bydd y trefnydd teithiau yn gweithredu taith siarter uniongyrchol i Naples a Ferona, gydag amrywiaeth teithiau ar gael ar gyfer teithwyr â chanddynt ofynion gwahanol. Bydd pecynnau hyblyg yn caniatáu i deithwyr addasu eu taith ar gyfer diddordebau penodol, yn amrywio o ymweld â saith dinas mewn saith niwrnod i dreulio wythnos mewn un lleoliad.
Meddai Alison Keeble, Cyfarwyddwr Siarter Rhanbarthol Newmarket Holidays: "Mae'r pecynnau i'r Eidal wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn rhanbarthau eraill ac rydym yn falch iawn o allu cynnig y dewisiadau yma deithwyr o dde Cymru. Mae'r cynnyrch rydym yn ei werthu i gyd yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw i ymwelwyr sydd am brofi gwir flas y gwledydd anhygoel yma, ac maen nhw hefyd yn cynnig gwerth gwych am arian, gyda'r prisiau yn dechrau o £499 y pen am saith noson mewn dewis eang o lety."
Ychwanegodd Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn falch o weld Newmarket Holidays yn ychwanegu at eu rhaglen o Gaerdydd ac yn cynnig teithiau siarter uniongyrchol i leoliadau newydd sbon. Rydym yn gobeithio y bydd y pecynnau yn llwyddiannus fel ein bod yn gallu dangos bod galw am deithiau newydd a chyffrous o Gaerdydd, a fydd yn ein cynorthwyo i argyhoeddi’r cwmni yma, a chwmnïau eraill, i ehangu eu rhaglen trwy gynnig hyd yn oed mwy o deithiau i leoliadau newydd yn y dyfodol."
Am fwy o wybodaeth am becynnau Newmarket Holidays sydd ar gael o Gaerdydd ewch i www.newmarketholidays.co.uk neu ffoniwch 08433 161129.
Manylion am y gwyliau Newmarket Holidays o Gaerdydd:
Bydd yr awyren i Ferona yn gadael Caerdydd ar 03 Gorffennaf 2011, ac yn cynnig pecynnau amrywiol gan gynnwys teithiau i Fenis, Padwa a Rifieria Fenis, Fenis, Ferona a Llyn Garda, Saith o Ddinasoedd yr Eidal sy’n cynnwys Fenice, Ferona, Fflorens a Rhufain, ac opsiwn i aros am wythnos gyfan ger Llyn Garda. Mae’r prisiau yn dechrau o £499 y pen am wely a brecwast am 7 noson yng ngwesty 3* Centrale Hotel.
Bydd pecynnau Naples yn gadael ar 01 Hydref 2011, ac yn amrywio o ymweld â Sorrento a Bae Naples, crwydro ynys Capri, Pompeii ac Arfodir Amalfi neu ddarganfod Feswfiws, Monte Cassino, Rhufain a Fflorens. Mae’r prisiau yn dechrau o £499 y pen am wely a brecwast am 7 noson yn Villa Angelina.