Gŵyl Banc brysur i’r Maes Awyr
Cyhoeddwyd: 26 Awst 2010
Mae Maes Awyr Caerdydd yn disgwyl tua 25,000 o deithwyr drwy ei ddrysau dros benwythnos Gŵyl Banc mis Awst, o ddydd Gwener i ddydd Llun, pan fydd teithwyr yn dianc cyn i wyliau haf yr ysgolion ddod i ben.
Ymhlith y lleoliadau mwyaf poblogaidd ar gyfer gwyliau byr mae Paris, Caeredin, Amsterdam, Dulyn a Jersey. Bydd eraill yn manteisio ar y prisiau is ar ôl gwyliau’r ysgol drwy fynd am gyfnod hwy i gyrchu’r haul i wledydd megis Yr Aifft, Tiwnisia a Malta.
Meddai Kerry Quinn, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn edrych ymlaen at benwythnos prysur dros ŵyl y banc, ac yn sgil tywydd diflas diweddar y DU rydym yn disgwyl i fwy o gwsmeriaid fachu cynigion munud olaf a’i throi hi am fannau mwy heulog ar ddiwedd gwyliau’r ysgol.
"Rydym yn gofyn i bob teithiwr gydweithio gyda ni wrth fynd trwy’w w r maes awyr drwy ganiatáu digon o amser ar gyfer teithio, cofrestru a'r profion diogelwch, ac i gadw mewn cof y rheolau diogelwch megis cludo hylif yn eich bagiau llaw, er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn rhedeg yn esmwyth a’r teithwyr yn cyrraedd eu hawyren ar amseri."
Am wybodaeth am y rheolau diogelwch gan gynnwys cyfyngiadau ar gludo hylif ewch i www.tbicardiffairport.com.