Dewis ehangach o fordeithiau i gwsmeriaid
Cyhoeddwyd: 29 Gorffennaf 2010
Erbyn hyn gall teithwyr o Gymru gysylltu bob dydd gyda'r cwmni mordeithiau safonol Hurtigruten o Faes Awyr Caerdydd a chael cyfle i weld rhai o olygfeydd mwyaf rhyfeddol y byd.
Mae Hurtigruten yn trefnu teithiau ar hyd arfordir syfrdanol Norwy, a gellir cynnwys teithiau o Faes Awyr Caerdydd trwy Amsterdam Schiphol gyda KLM yn rhan o'r pecyn.
Gan ymadael o ganolfan ddiwylliannol Bergen gall teithwyr fwynhau’r golygfeydd paradwysaidd o arfordir yr Arctig a ffiordau Norwy ar fordaith i Kirkenes, ymhell tu hwnt i Gylch y Gogledd. Mae’w w r mordeithiau yn amrywio o 6 i 14 diwrnod gyda nifer helaeth o dripiau byrion y gellir eu hychwanegu. Yn cynnwys teithio ddwy ffordd o Gaerdydd, mae’r prisiau yn dechrau ar £1349 am Fordaith Gylch Glasurol 12 diwrnod sy’n cynnwys pob pryd bwyd (wedi’i seilio ar ddau o bobl yn rhannu caban dau wely ac yn teithio yn Ionawr neu Chwefror 2011). Rhaid archebu erbyn 30 Medi 2010.
Bergen yw man cychwyn y rhan fwyaf o’r mordeithiau ac mae teithiau ar gael dair gwaith y dydd o Gaerdydd trwy Amsterdam i’r ddinas Norwyeg, gan sicrhau y bydd teithwyr yn cyrraedd mewn da bryd i ymuno ag un o’r mordeithiau beunyddiol.
Meddai Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: "Mae gan fordeithiau farchnad fawr yn ne Cymru a dydy teithwyr ddim bob amser yn sylweddoli bob modd hedfan ar deithiau rheolaidd i gysylltu gyda’r llongau.
Rydym yn falch fod Hurtigruten yn gwerthu teithiau o Gaerdydd yn rhan o’u pecyn mordaith, gan fod hyn yn cynnig y cyfle i deithwyr o Gymru ymweld ag ardal hyfryd arall o’u maes awyr lleol."
Ychwanegodd Lucy Hone, rheolwr gwerthu rhanbarthol Hurtigruten: "Rydym wedi dechrau sylwi ar ddiddordeb mawr yn ardal Caerdydd yn ein teithiau i weld Goleuni’r Gogledd yn ystod y gaeaf a’r Haul Hanner Nos yn yr haf. Mae ein llongau ni yn cynnig profiad unigryw i’n cwsmeriaid, gan ein bod yn cynnig teithiau yn gadael Bergen bob dydd yr holl ffordd i Kirkenes sydd ar y ffin gyda Rwsia gan ymweld â phorthladdoedd anghysbell na all dderbyn y llongau mordaith mawr. Gall y teithwyr brofi prydferthwch naturiol, heb ei ddifetha y gwir Norwy bob dydd, gan na fyddant byth yn colli golwg ar y golygfeydd syfrdanol. Mae Caerdydd yn ardal ag iddi dwf posibl i Hurtigruten ac rydym yn gweithio’n agos gyda threfnwyr gwyliau yn yr ardal, i’w cefnogi i ehangu eu busnes gyda Hurtigruten."