Cardiff Airport

Newyddion

Cysylltiadau Emirates o Gaerdydd

Cyhoeddwyd: 20 Gorffennaf 2010

Y cwmni yn cynnig cysylltiadau o Gaerdydd trwy feysydd awyr yn y DU ac Ewrop.

Mae gan deithwyr o dde Cymru nawr gyfle i gysylltu gyda’r cwmni hedfan uchel ei barch Emirates, o faes awyr cenedlaethol Cymru drwy nifer o’r meysydd awyr Prydeinig ac Ewropeaidd mae’r cwmni’n ei ddefnyddio.

Gall teithwyr sy’n hedfan gyda chwmnïau awyrennau megis Flybe ac Eastern Airways* o Gaerdydd gysylltu gyda gwasanaethau Emirates i Dubai trwy Newcastle, Glasgow, Paris ac Amsterdam, ac ymlaen i’w rhwydwaith eang o dros 100 o leoliadau byd-eang, gan gofrestru unwaith yng Nghaerdydd.

Caerdydd yw un o’r ychydig feysydd awyr yn y DU y gellir ei archebu ar wefan Emirates, www.emirates.com, sydd ddim yn cael ei wasanaethu’n uniongyrchol gan y cwmni. Heblaw am wasanaethu i Dubai gall teithwyr nawr hedfan ymlaen i Asia, Awstralasia, Affrica a’r Dwyrain Canol.

Bydd gan y cysylltiadau y potensial i ddenu twristiaeth i Gymru gan roi’r brifddinas ar fap twristiaeth byd-eang gan y bydd y teithiau ar gael i’w harchebu mewn lleoliadau tramor cyn belled â Seland Newydd ac Awstralia.

Meddai Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: "Rydyn ni’n falch o allu cynnig i’n teithwyr y cyfle o gael profiad o’r cwmni hedfan uchel ei barch drwy gyfrwng cysylltiadau cyfleus o’u maes awyr lleol.

Fel maes awyr rhanbarthol ni fyddwn bob amser yn gallu cynnig gwasanaeth uniongyrchol i leoliadau pell; serch hynny rydym am bwysleisio bod hedfan o’ch maes awyr lleol a chysylltu gydag awyrennau i leoliadau byd-eang o feysydd awyr megis Paris, Dulyn neu Amsterdam yn aml yn llawer haws a mwy cyfleus, yn arbed amser ac yn gallu bod yn ddull rhatach o deithio."

Ychwanegodd Conrad Clifford, Is Lywydd Emirates yn y DU ac Iwerddon: "Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd i ehangu ein gwasanaethau yn y DU ac Iwerddon, ac yn falch y bydd teithwyr o Gymru yn gallu cysylltu gyda Emirates o feysydd awyr ar hyd a lled y DU ac Ewrop."

News menu