Maes awyr yn rhoi gwersi iaith i ysgol leol
Cyhoeddwyd: 14 Gorffennaf 2010
Enillodd 17 disgybl o Ysgol Gyfun Bryn Hafren le ar daith o gwmpas Maes Awyr Caerdydd ym mis Gorffennaf fel rhan o brosiect cyfredol rhwng y maes awyr a’r ysgol leol.
Roedd yr ymweliad yn rhan o’r cynllun a adnabyddir fel “ Pencampwyr Iaith Busnes” a sefydlwyd gan CILT Cymru gyda’r bwriad o annog disgyblion i astudio ieithoedd tramor modern i safon TGAU ac uwch. Sefydlwyd y cynllun fel ymateb i’r gostyngiad yn argaeledd a safon sgiliau iaith yn y DU.
Mae’r prosiect hefyd yn annog cwmnïau i ymroi’n weithgar i bartneriaethau sydd yn canolbwyntio ar ddysgu ieithoedd, gan ofyn i fusnesau rannu eu profiadau gyda disgyblion ysgol i roi awgrym o sut y gall siarad iaith dramor fod o fudd i fyd busnes. Bu cynrychiolwyr amlieithog o’r maes awyr yn ymweld â’r ysgol er mwyn trafod y manteision sy’n deillio o allu siarad gwahanol ieithoedd yn y diwydiant hedfan.
Gofynnwyd i’r disgyblion hefyd i gynnig sylwadau ar wefan y maes awyr a chyflwyno syniadau. Cafodd y grwpiau llwyddiannus, a ddewiswyd gan y maes awyr, fynd ar daith oedd yn cynnwys ymweliad â’r ganolfan rheoli trafnidiaeth awyr, cyflwyniad am y drefn gofrestru, ymweliad â’r orsaf dân a golwg ar y modd mae gwasanaethau i’r cyhoedd yn y maes awyr yn cael eu darparu.
Dywedodd Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd: “Rydym wedi bod ynghlwm â’r cynllun yma ers nifer o flynyddoedd ac unwaith eto roeddem yn llawn edmygedd o’r brwdfrydedd a’r safonau uchel a ddangoswyd gan y disgyblion tuag at y dasg a osodwyd. Daeth y prosiect i ben am flwyddyn arall gyda’r ymweliad yma ond rydym yn gobeithio parhau’r berthynas gyda Bryn Hafren a CILT Cymru yn y dyfodol er mwyn dangos i bobl ifanc yn ein cymuned leol bwysigrwydd siarad gwahanol ieithoedd a sut y gall hynny fod yn fanteisiol yn y gweithle"
Ychwanegodd Danielle Perry, athrawes ieithoedd tramor modern yn Bryn Hafren: “Fe wnaeth disgyblion blwyddyn 9 wirioneddol
fwynhau’r prosiect yma ac roeddent yn awyddus i ymweld â Maes Awyr Caerdydd, ble gafon nhw brofiad o lygad y ffynnon am fanteision astudio ieithoedd. Cafodd y prosiect effaith gadarnhaol eto eleni gyda dros 100 o ddisgyblion yn dewis astudio iaith dramor fodern i safon TGAU y flwyddyn nesaf. Mae tîm Ieithoedd Tramor Modern Bryn Hafren yn awyddus i gydweithio gyda Maes Awyr Caerdydd eto yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Bethan Enticott o CILT Cymru: "Mae CILT Cymru yn hynod falch fod y bartneriaeth gyda Maes Awyr Caerdydd yn mynd o nerth i nerth. Wedi treulio amser fy hun gyda’r disgyblion fu’n cymryd rhan mae’w w n amlwg fod y disgyblion yn ymroi yn llwyr i’r prosiect. Bu’r bartneriaeth yn amhrisiadwy yn dangos i fyfyrwyr gwir fanteision ieithoedd yng nghyd-destun gwaith a busnes".