Flybe ac Air France yn cyhoeddi cysylltiad o bwys
Cyhoeddwyd: 13 Gorffennaf 2010
Mae Flybe ac Air France wedi cyhoeddi cynlluniau i weithredu perthynas fasnachol eang yr hydref yma yn sgil cytundeb rhannu cod fydd yn werthfawr i deithwyr Maes Awyr Caerdydd.
Bydd y cynllun rhannu cod yn galluogi teithwyr Cymreig fydd yn hedfan gyda Flybe i gysylltu gydag awyrennau Air France drwy Faes Awyr Paris Charles de Gaulle o ddiwedd Hydref 2010, fydd yn golygu gallu defnyddio holl wasanaethau rhyngwladol eang Air France yn ddidrafferth.
Dywedodd Jim French, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Flybe: "Mae’r cytundeb yma yn garreg filltir bellach yn nhwf Flybe. Wedi cadarnhau ein safle fel prif gwmni hedfan mewnol y DU, rydym wedi ceisio gwella ein safle yn ein marchnad bwysicaf nesaf, sef y farchnad dinasoedd busnes Ewropeaidd.
"Mae’r cytundeb a gyhoeddir heddiw gydag un o’r grwpiau hedfan mwyaf rhagorol yn y byd yn caniatáu i ni estyn cyrhaeddiad ein brand ar draws Ewrop gyfan o fewn fframwaith y bartneriaeth strategol yma. Daw rhannu’r cod â manteision i deithwyr yn ogystal â’r ddau gwmni awyrennau; bydd pawb ar eu hennill. Bydd Flybe yn gallu cynnig dewis ehangach hyd yn oed o deithiau i’n cwsmeriaid, yn ogystal â darparu lefelau ardderchog o gyd gysylltu sydd ond yn bosib i gwmni o faint Air France ei gynnig."
Ychwanegodd Prif Swyddog Masnachol Air France, Bruno Matheu: "Mae Air France yn falch o gyhoeddi partneriaeth gyda phrif gwmni hedfan mewnol y DU. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn gwylio tyfiant a datblygiad Flybe gyda chryn ddiddordeb ac wedi edmygu ei berfformiad wrth dyfu’n arweinydd uchel ei barch o fewn y sector.
"Bydd cydweithio yn y dyfodol gyda Flybe yn gyfle pwysig i Air France gryfhau ei safle yn y DU, marchnad fwyaf Ewrop. Yn sgil rhannu’n codau’n gytbwys, bydd Flybe ac Air France nawr yn gallu cynnig dewis eang o gyrchfannau newydd yn Ffrainc a’r DU i’w cwsmeriaid. Bydd y cyfuniad o wasanaeth pellgyrhaeddol Flybe ar draws y DU, ynghyd â rhwydwaith ryngwladol eang Air France trwy Charles De Gaulle, yn cynnig dull hawdd i deithwyr o fwy o ddinasoedd y DU gyrraedd hyd yn oed mwy o ddewis o leoliadau blaenllaw busnes a hamdden."
Ychwanegodd Mr. French: "Rydym yn hynod falch bod model busnes llwyddiannus Flybe wedi cael ei gydnabod gyda chefnogaeth mor bositif a sylweddol gan un o’r cludwyr uchaf ei barch yn y byd. Rydym yn edrych ymlaen i gryfhau ein perthynas gydag Air France yn y blynyddoedd sydd i ddod."