Gwasanaeth bysiau gwennol yn parhau yn ystod haf 2010
Cyhoeddwyd: 18 Mai 2010
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi croesawu'r newyddion y bydd y gwasanaeth bysiau gwennol sy'n cysylltu gorsaf drenau'r Rhws â Maes Awyr Caerdydd yn parhau yn ystod yr haf ac wedi hynny.
Y mis diwethaf, cyhoeddodd Maes Awyr Caerdydd fod y gwasanaeth bysiau, sydd wedi'i ddarparu'n rhad ac am ddim, yn cael ei dynnu'n ôl yn anffodus. Ers hynny, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio'n agos gyda Maes Awyr Caerdydd a'r Cyngor lleol i ystyried sut y gallai'r gwasanaeth pwysig hwn barhau, ac erbyn hyn mae wedi cyhoeddi bod cytundeb wedi'i sicrhau.
Mae'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi mynegi ei fod wrth ei fodd bod y gwasanaeth yn parhau, yn rhad ac am ddim, tan 31 Hydref 2010.
"Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn hynod werthfawr, ac mae wedi rhoi llawer mwy o ddewis i bobl o ran sut maen nhw'n teithio i Faes Awyr Caerdydd ac oddi yno. Felly, mae'n bleser mawr gen i gadarnhau y bydd ein buddsoddiad yn galluogi'r gwasanaeth bysiau gwennol i barhau" meddai Mr Jones.
"Mae ymdrech pob carfan yn dangos ymhellach eu bod nhw i gyd wedi ymrwymo i sicrhau system trafnidiaeth gynaliadwy i'r cyhoedd yng Nghymru.”
Meddai'r Cyng. Jeff James, aelod cyngor y Fro a'r Cabinet dros gynllunio a thrafnidiaeth: "Dw i'n falch iawn y bydd gwasanaeth bysiau gwennol y maes awyr yn parhau gyda chymorth Cyngor Bro Morgannwg. Mae'n gyswllt trafnidiaeth pwysig yn y Fro, un yr hoffen ni ei weld yn parhau yn y dyfodol. Ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Maes Awyr Caerdydd sydd wedi gwneud hyn yn bosibl."
Meddai Steve Hodgetts, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes ym Maes Awyr Caerdydd: "Dyma enghraifft ardderchog o bartneriaeth yn arwain at ganlyniad da a dylai pawb gael ei ganmol am yr ymdrech. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ragor o welliannau yn y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i bobl sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd, yn sgil y dull hwn o weithredu."
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i ddarparu tua £25,000 y flwyddyn, yn ogystal â £7,500 gan yr awdurdod lleol. Bydd Maes Awyr Caerdydd yn darparu'r cerbyd presennol i'w ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth tan ddiwedd mis Hydref 2010. Bydd y trefniant dros dro hwn yn rhoi amser i ni edrych ar opsiynau mwy cynaliadwy ar gyfer cadw'r gwasanaeth yn y tymor hir.
Caiff y cytundeb i weithredu'r gwasanaeth ei gadw gan y cwmni presennol, Veolia Transport Cymru, tan 30 Mehefin 2010 ac mae pob carfan wrthi'n trafod sut i sicrhau'r gwasanaeth tan 31 Hydref 2010.