Cardiff Airport

Newyddion

bmibaby yn lansio rhan gyntaf eu hamserlen haf 2011

Cyhoeddwyd: 24 Mehefin 2010

Mwy o lwybrau a theithiau hedfan i’w cyhoeddi yn fuan.

Mae’r cwmni awyrennau rhad bmibaby wedi lansio rhan gyntaf eu hamserlen hedfan haf 2011 o Faes Awyr Caerdydd.

Mae wyth o’u prif leoliadau haul a gwyliau dinas bellach ar werth, a bydd mwy o leoliadau a theithiau hedfan yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Mae teithwyr bellach yn gallu archebu eu teithiau hedfan ar gyfer yr haf flwyddyn nesaf, o 29 Mawrth – 29 Hydref 2011. Yn dilyn eu cyhoeddiad ynglŷn â dechrau gwasanaeth newydd i’r Almaen, bydd y cwmni awyrennau yn parhau i wasanaethu teithiau hedfan o Gaerdydd i Munich dros haf 2011.

Meddai Julian Carr, rheolwr gyfarwyddwr bmibaby:

"Rydym yn falch o gyhoeddi rhan gyntaf ein hamserlen o Faes Awyr Caerdydd. Mae hyn yn newyddion gwych i rai sy’n awyddus i drefnu eu gwyliau ymlaen llaw, er enghraifft teuluoedd a phobl sydd ag ail gartrefi, gan ei fod yn eu galluogi i archebu’n fuan i fanteisio ar y prisiau gorau.

"Fe fyddwn yn parhau i wasanaethu ein teithiau hedfan i Munich yn rhan o’n hamserlen haf 2011.

"Rydym hefyd yn parhau i roi dewis gwych o leoliadau i deithwyr am brisiau isel o’u maes awyr lleol."

Rhan gyntaf amserlen haf 2011 o Gaerdydd:

Alicante, Faro, Geneva, Malaga, Mahon, Munich, Murcia, Palma

Am fwy o wybodaeth ewch i www.bmibaby.com

News menu