Cardiff Airport

Newyddion

Tîm o'r maes awyr yn esgyn y tri chopa

Cyhoeddwyd: 18 Mehefin 2010

Cododd tîm o Faes Awyr Caerdydd dros £3,500 ar gyfer elusen gancr Tenovus trwy ddringo’r tri chopa uchaf yn yr Alban, Lloegr a Chymru mewn 24 awr.

Dechreuodd y cerddwyr, Patrick Duffy, Oliver Jaycock, Jon Nicholas, Ceri Mashlan a Catrin Elis ar droed Ben Nevis am 7am ar ddydd Sadwrn, 12fed o Fehefin, gan gyrraedd copa’r Wyddfa am 6.56 a.m ar ddydd Sul, 13eg o Fehefin, gan gwblhau’r sialens gyda phedwar munud yn unig dros ben.

Treuliodd y gyrrwyr, Mike Coe, Bill Kitchen ac Avril Brown y penwythnos yn bwydo a chludo’r tîm o un mynydd i’r llall, ac roeddent hwythau hefyd yn rhan o’r ymgyrch i gasglu arian.

Dywedodd Patrick Duffy, rheolwr gyfarwyddwr y maes awyr ac un o’r cerddwyr:  "Roedd y 24 awr yn her i ni gyd, ond yn brofiad gwych ac yn ymarfer da i weithio fel tîm.”

"Rydym yn hapus iawn ein bod yn gallu rhoi’r arian a godwyd at achos cystal, a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u nawdd."

Mae Tenovus yn elusen gancr sy’n cynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i rai sy’n dioddef o gancr ac i’w  teuluoedd yng Nghymru, yng nghalon y gymuned.

News menu