Cardiff Airport

Newyddion

Flybe yn lansio rhaglen aeaf 2010/11

Cyhoeddwyd: 17 Mai 2010

Prif gwmni awyrennau mewnol y DU yn cynnig dewis y gaeaf nesaf o chwe llwybr o Faes Awyr Caerdydd gyda hyd at 98 taith yr wythnos

Mae Flybe, prif gwmni awyrennau mewnol y DU, wedi lansio ei raglen aeaf lawn ar gyfer 2010/11 o Gaerdydd sy’n cynnwys chwe llwybr allweddol a hyd at 98 taith gyfleus bob wythnos. Mae’n bosib archebu tocynnau nawr ar gyfer teithiau rhwng Hydref 31 a Mawrth 26, 2011 gyda phrisiau’n dechrau o £26.99 un ffordd, sy’n cynnwys trethi a thaliadau maes awyr.

Yn sgil cyhoeddi’r teithiau gaeaf yma bydd Flybe yn gweithredu cyfanswm o 143 gwasanaeth gaeaf ar draws ei rwydwaith eang sydd hefyd yn cynnwys 15 llwybr newydd a 10 llwybr i leoliadau sgïo Ewropeaidd poblogaidd.

Mae llwybrau gaeaf Flybe o Gaerdydd fel a ganlyn:

- Dinas Belfast
- Caeredin
- Glasgow
- Jersey
- Newcastle
- Paris Charles De Gaulle

  • Hyd at 98 taith yr wythnos
  • Prisiau’n dechrau o £26.99 un ffordd sy’n cynnwys trethi a thaliadau maes awyr
  • Manylion llawn ac archebu ar www.flybe.com  

Medd Mike Rutter, Prif Swyddog Masnachol Flybe: “Er gwaetha pob her wynebwyd gan y diwydiant dros y flwyddyn ddiwethaf, a gyda chwmnïau awyrennau eraill yn cyfyngu ar eu tyfiant, llwyddodd Flybe lenwi llawer o’r bylchau adawyd mewn gwasanaethau gan barhau i gynyddu ei ddarpariaeth.

"Rydym yn falch o allu cynnig y chwe llwybr allweddol yma yn ein rhaglen aeaf 2010/11 ar gyfer teithwyr o Gymru. Mae amrywiaeth y cyrchfannau gaeaf yn ddelfrydol i’r rhai sy’n chwilio am deithiau busnes fforddiadwy yn ogystal â phobl sydd am gael gwyliau byr adeg hanner tymor yr hydref neu gyfnod y Nadolig. I sicrhau’r prisiau isaf posibl, y cyngor yw i bobl archebu tocynnau teithio’r gaeaf yn awr."

News menu