Vueling yn cyhoeddi gwasanaeth newydd i Alicante a Palma
Cyhoeddwyd: 12 Ionawr 2012
Heddiw, cyhoeddodd Vueling, prif gwmni pris isel Sbaen, ei fod yn atgyfnerthu’i wasanaeth o Faes Awyr Caerdydd yr haf yma drwy ychwanegu dwy gyrchfan newydd, Alicante a Palma, Mallorca. Bydd y gwasanaethau rheolaidd newydd yn dechrau ar 22 Mehefin 2012 gan ddefnyddio awyren 150 sedd Airbus A319 dair gwaith yr wythnos ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sul.
Mae newyddion heddiw yn dilyn yn dynn ar sodlau’r cyhoeddiad ym mis Hydref fod gwasanaeth Caerdydd-Barcelona am ddechrau ym mhia Mawrth, gan nodi gwasanaeth uniongyrchol cyntaf Vueling o’r DU i Barcelona, canolfan y cwmni awyrennau. O 27 Mawrth ymlaen bydd teithiau i Barcelona yn gadael ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sadwrn, ac yna o’r 24ain Mehefin bydd yr amserlen yn newid i ddyddiau Mawrth , Gwener a Sul er mwyn ymateb i’r diddordeb yn y farchnad fordeithiau o Barcelona. Mae’r rhan fwyaf o fordeithiau yn dechrau ar ddydd Sadwrn felly bydd y gwasanaeth yma yn sicrhau fod teithwyr yn cyrraedd ar amser cyfleus er mwyn ymuno â’r fordaith o’u dewis gan dreulio noson olaf yn Barcelona cyn dychwelyd adref.
Bydd prisiau tocynnau i bob cyrchfan yn dechrau ar tua £41.41 (€49.99) ac mae tocynnau ar gael nawr ar www.vueling.com, trefnwyr teithiau, safle iPhone Vueling, porth symudol m.vueling.com, a chanolfan ffôn y DU 0906 754 7541. Yn wreiddiol ar gael hyd at ganol Mehefin, mae Vueling nawr wedi ymestyn ei sêl haf i gynnwys teithiau drwy dymor brig yr haf a chyfnod y gwyliau haf yr ysgolion.
Mae teithiau Vueling yn cynnig dewis eang o gysylltiadau hedfan pellach drwy weithrediadau llwyddiannus Canolfan Barcelona, sydd ar hyn o bryd yn cynnig cyswllt â thros 40 cyrchfan yn Ewrop a Gogledd Africa, gyda gwasanaeth checio bagiau i mewn ar gael ym Maes Awyr Caerdydd i ben draw’r daith.
“Rydym yn hynod falch o allu ehangu ein dylanwad yma yng Nghymru gan ehangu ein hamserlen i alluogi teithwyr o Gaerdydd nid yn unig i fwynhau dinas Barcelona nid am benwythnos yn unig ond hefyd i fwynhau gwyliau mewn lleoliadau poblogaidd eraill yn Sbaen,” dywedodd Prif Weithredwr Vueling, Alex Cruz. “Mae Vueling yn falch iawn o allu cyflawni anghenion y dalgylch lleol ar gyfer teithiau uniongyrchol i’r lleoliadau yma ar gyfer teithwyr hamdden a busnes fel ei gilydd.”
Ychwanegodd Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn falch o gyhoeddiad Vueling eu bod am weithredu dau wasanaeth newydd i Alicante a Palma, yn ychwanegol i’r gwasanaeth a gyhoeddwyd eisoes i Barcelona. Bydd y cwmni pris isel o Sbaen yn ychwanegiad gwerthfawr i dde Cymru, a bydd yn cynnig cyfle i’n cwsmeriaid gyrraedd rhai o brif lecynnau gwyliau Ewrop o’u maes awyr lleol. Yn ogystal, bydd y cwmni, sydd â phroffil amlwg iawn yn Sbaen, yn rhoi cyfle i deithwyr o Sbaen ymweld â Chymru. Rydym yn edrych ymlaen at ddiwedd Mawrth pan fydd y cwmni yn dechrau gweithredu o Gaerdydd, gan obeithio y bydd cwsmeriaid Cymru yn cefnogi’r gwasanaethau yma.”
Croesawyd y cyhoeddiad gan Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: "Mae hyn yn newyddion gwych i’r maes awyr ac i’r ardal ehangach – mae’r teithiau’n mynd i leoliadau gwyliau hynod boblogaidd gyda’r potensial i gynyddu’n sylweddol y niferoedd sy’n defnyddio Maes Awyr Caerdydd. Mae hefyd yn creu cysylltiadau busnes a thwristiaeth agosach rhwng Cymru a Sbaen gan ddod â manteision i’r ddwy wlad."
Mae Vueling yn darparu gwasanaeth sy’n adlewyrchu arferion cludwyr traddodiadol gan gynnwys dewis seddau, opsiwn i archebu drwy drefnwyr teithiau lleol, cynlluniau pwyntiau teyrngarwch, rhwydwaith eang a gwasanaethau premiwm. Mae hyd yn oed yn bosib prynu tocynnau anrheg ar gyfer teithiau Vueling fel anrhegion arbennig.
Ynglŷn â Vueling
Crëwyd Vueling ym mis Gorffennaf 2004 gyda dwy awyren Airbus A320, pedwar llwybr a’r bwriad o ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid am bris cystadleuol. Yn ystod tymor y gaeaf 2011-2012, bydd Vueling yn gweithredu fflyd o 45 awyren i hedfan i 44 maes awyr mewn 13 gwlad drwy Ewrop a Gogledd Affrica. Mae chwech o’r meysydd awyr yma yn ganolfannau gweithredol parhaol (Barcelona, Madrid, Seville, Malaga, Bilbao a Valencia). Mae un arall, Ibiza, yn ganolfan yn ystod yr haf. Ym mis Ebrill 2011, sefydlodd Vueling ddwy ganolfan weithredu ryngwladol, Amsterdam a Toulouse, sy’n cyfrannu ymhellach at strategaeth dwf ryngwladol y cwmni awyrennau.