Gwyliau dros y Nadolig o Faes Awyr Caerdydd
Cyhoeddwyd: 13 Rhagfyr 2011
Mae Maes Awyr Caerdydd yn disgwyl dros 25,000 o deithwyr i fynd trwy ei ddrysau dros gyfnod gwyliau Nadolig yr ysgolion rhwng 16 Rhagfyr 2011 a 03 Ionawr 2012.
Mae teithiau i Amsterdam, Paris, Dulyn, Newcastle, Glasgow, Belfast a Chaeredin yn boblogaidd gan deithwyr sy’n chwilio am wyliau mewn dinasoedd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, a bydd nifer yn teithio ymhellach i gyrchfannau ledled y byd yn sgil cysylltiadau yn Amsterdam, Paris a Dulyn.
Yn ogystal â lleoliadau heulog yn y gaeaf megis yr Aifft, Ciprys, yr Ynysoedd Dedwydd a Sbaen, mae teithiau i Zurich, sydd o fewn tafliad carreg i Alpau’r Swistir, hefyd yn denu sgiwyr sy’n gallu manteisio ar gynnig Helvetic Airways o drosglwyddo offer sgïo yn rhad ac am ddim dros gyfnod yr ŵyl.
Meddai Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: “Yn ôl ein harfer rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu teithwyr Cymreig i’r maes awyr dros gyfnod y Nadolig, ac rydym yn mynd i ysbryd y Nadolig gydag addurniadau a cherddoriaeth dymhorol yn y derfynfa.
Tra’n gobeithio na fydd y tywydd yn dirywio, mae gennym gynlluniau gweithredu cadarn wrth law a fydd yn sicrhau y byddwn yn barod os bydd eira yn achosi problemau, gan gadw unrhyw darfu ar ein gwasanaethau i’r lleiafswm.
Mae 2012 yn argoeli bod yn flwyddyn gyffrous i ni, yn sgil cwmni awyrennau newydd, Vueling, yn dechrau gwasanaeth i Barcelona o fis Mawrth, yn ogystal â gwasanaeth ar draws yr Iwerydd i Orlando fydd yn dechrau ym mis Mai o dan adain Cosmos. Mewn hinsawdd economaidd anodd rydym yn obeithiol y bydd y gwasanaethau newydd yma yn llwyddiannus, er mwyn annog cwmnïau awyrennau a gweithredwyr eraill i ehangu eu gwasanaethau yn yr ardal yma.”
Cynghorir teithwyr fydd yn ymweld â’r maes awyr yn ystod gwyliau’r Nadolig i ganiatáu digon o amser ar gyfer y daith i’r maes awyr, a dylid rhoi sylw arbennig i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gan y bydd, o bosib, gyfyngiadau ar amserlenni arferol dros y cyfnod.
Dylai teithwyr sy’n dymuno cludo Cracers Nadolig ymgynghori gyda’r cwmni awyrennau cyn cyrraedd y maes awyr, a dylai teithwyr hefyd gofio na ddylid cludo anrhegion wedi’u lapio mewn bagiau llaw gan y bydd yn ofynnol, efallai, i agor yr anrhegion yma yn ystod y broses ddiogelwch.