Cardiff Airport

Newyddion

orlando universalstudios

Orlando ar gael o Gaerdydd unwaith eto

Cyhoeddwyd: 05 Rhagfyr 2011

Heddiw, cyhoeddodd Cosmos, y trefnwr teithiau annibynnol mwyaf yn DU, y bydd yn gwas teithiau a gwyliau yn uniongyrchol o Gaerdydd i Orlando yn Fflorida yr haf nesaf.

Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng misoedd Mai ac Awst a bydd y prisiau am becyn Cosmos 14 noson i’r gyrchfan wyliau boblogaidd yn dechrau am £699 y pen wedi’i seilio ar 6 yn rhannu fflat 2 lofft ar delerau hunan arlwyo yn y Bahama Bay Resort and Spa 4 diemwnt yn Kissimmee.  Mae prisiau hedfan yn unig, a hynny dros nos, yn dechrau am £539 y pen yn yr adran economi neu am £759 yn yr adran bremiwm.

Bydd y teithiau yn mynd i Faes Awyr Sanford Orlando ar awyren Monarch A330, gan adael Caerdydd ar ddydd Llun a dychwelyd yn oriau mân fore Mawrth.

Fflorida yw’r gyrchfan bell fwyaf poblogaidd ymhlith twristiaid o’r DU, gan fod nifer o atyniadau yno yn cynnwys Disneyworld ac Universal Studios, canolfannau siopa a thraethau syfrdanol, sy’n sicrhau fod gwyliau pythefnos yno yn ddelfrydol i deuluoedd.

Meddai Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd  gyda phenderfyniad Cosmos i weithredu’r gwasanaeth yma i Orlando o Gaerdydd yr haf nesaf.

Am gryn gyfnod bu Orlando yn absennol o’n rhestr gyrchfannau, ac mae’n newyddion arbennig fod y trefnwr teithiau wedi penderfynu gweithredu o Gymru gan fod Fflorida wedi bod yn gyrchfan boblogaidd o Gaerdydd erioed.

Mewn hinsawdd economaidd anodd, llwyddodd Maes Awyr Caerdydd i ddenu dau gwmni awyrennau newydd, Vueling a Helvetic Airways, ac erbyn hyn y trefnwr teithiau Cosmos yn ogystal i’r maes awyr yn ystod y naw mis diwethaf. Mynegodd teithwyr o Gymru eu dymuniad i hedfan yn uniongyrchol i Orlando o Gaerdydd, ac felly mae’r cyfle ganddyn nhw erbyn hyn i droi eu dymuniadau yn archebion, a fydd, o ganlyniad, yn ein cynorthwyo ni i annog cwmnïau awyrennau a theithio i ymestyn eu gweithgareddau ymhellach yn ne Cymru.”

Ychwanegodd Hugh Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr, Gweithrediadau Taith, Grŵp Monarch Travel, sy’n berchen ar y cwmni teithio Cosmos:  “Bu 2011 yn flwyddyn hynod lwyddiannus i ni o safbwynt busnes yn Fflorida. Cawsom gefnogaeth wych gan y parciau thema, perchnogion gwestyau a chyflenwyr eraill oedd yn awyddus i’n cynorthwyo i hyrwyddo’r lleoliad ac mae’n wirioneddol wedi taro deuddeg. Dyma’r union adeg i ehangu ein rhaglen i gynnwys mwy o deithiau rhanbarthol ac rydym yn hynod falch o allu cynnwys Caerdydd yn yr ehangu yma.”

Mae teithiau a gwyliau ar werth yn awr ar www.cosmos.co.uk/florida  neu trwy drefnwyr teithiau sy’n gysylltiedig â Cosmos. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0871 423 8592.

I ddathlu’r cyhoeddiad heddiw, mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig parcio am ddim i bawb sy’n archebu tocynnau ar gyfer y gwasanaeth yma cyn diwedd y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth ar sut i fanteisio ar y cynnig arbennig yma cliciwch yma.

News menu