Vueling yn cyhoeddi gwasanaethau newydd i Barcelona
Cyhoeddwyd: 28 Hydref 2011
Gwasanaeth uniongyrchol i Barcelona o Gaerdydd i ddechrau ym Mawrth 2012
Heddiw cyhoeddodd, Vueling, prif gwmni hedfan cost isel Sbaen, ei fod yn ehangu ei bresenoldeb yn y DU gyda lansiad teithiau rheolaidd o Faes Awyr Caerdydd i Barcelona ar 27 Mawrth 2012. Bydd y llwybr yn gweithredu dair gwaith yr wythnos ar awyren Airbus A320 ar ddydd Mawrth, Iau a Sadwrn. Mae’r gwasanaeth uniongyrchol yn newydd i Barcelona, a’r cyntaf i Vueling weithredu i’w bencadlys o’r DU.
Bydd y prisiau yn dechrau o tua £26 (30€) o Gaerdydd ac mae modd eu harchebu gysylltu â www.vueling.com, asiantau teithio, gwasanaeth iPhone Vueling, porth symudol m.vueling.com, a rhif canolfan alwadau y DU 0906 754 7541. Mae teithiau Vueling yn cynnig nifer helaeth o gysylltiadau pellach drwy wasanaeth llwyddiannus Vueling yng Nghanolfan Barcelona, sydd ar hyn o bryd yn cyrraedd dros 40 o leoliadau yn Ewrop a gogledd Affrica, gyda’r adnoddau cyflawn i gofrestru bagiau ym Maes Awyr Caerdydd drwodd i ben draw’r daith.
“Rydym yn hynod falch o gael ehangu ein rhwydwaith i ganolfan rhanbarthol Caerdydd. Mae wedi bod ar y gweill ers cryn amser ac rydym wrth ein bodd o allu ei ychwanegu at rwydwaith Vueling,” meddai Prif Weithredwr Vueling, Alex Cruz. “Mae Vueling yn falch iawn o allu cyflawni gofynion y dalgylch lleol ar gyfer teithiau uniongyrchol i Barcelona ar gyfer teithwyr hamdden a busnes. Mae’r maes awyr yn cynnig cludiant cyfleus a gwasanaeth effeithlon felly fe fyddant yn boblogaidd gyda theithwyr hamdden sy’n chwilio am wyliau byr dinesig, cyfleus. Yn ogystal, mae nifer fawr o fyfyrwyr o fewn tafliad carreg, felly ar y cyfan, rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn helaeth. Rydym hefyd yn disgwyl i deithwyr ddefnyddio i’r eithaf y dewisiadau a gynigir gan ein gwasanaeth cysylltiol i nifer o’n cyrchfannau eraill gan gynnwys Malaga, Palma, Ibiza, Rhufain, Naples, ac yn y blaen.”
Bydd y teithiau newydd yn bennaf yn denu teithwyr hamdden sy’n awyddus i brofi rhinweddau diwylliannol a gastronomig Barcelona ynghyd â’r rhai fydd am gyrraedd porthladd Barcelona ar gyfer mordeithiau ym Môr y Canoldir. Prifddinas Catalonia yw un o’r cyrchfannau gwyliau byr dinesig mwyaf poblogaidd yn Ewrop gyda champweithiau diwylliannol yn amrywio o bensaernïaeth Gaudi sy’n cynnwys y chwedlonol, anorffenedig Sagrada Familia, i Montjuic sy’n gartref i brif arddangosfa’r byd o waith Miró. Gall teithwyr brofi bwydydd gwych ym marchnad Boqueria a’r bwytai a ysbrydolwyd gan Ferran Adrià. Ar gyfer adar y nos, mae ardal el Born yn cynnig popeth o fwytai cŵl, i glybiau nos ffasiynol, tra bo bariau’r Ramblas yn cynnig profiadau cofiadwy. Mae canolfan cynadleddau fodern Barcelona wedi sefydlu’i hun yn gyflym yn un o brif leoliadau cynadleddau Ewrop sydd yn boblogaidd ymysg llawer o drefnwyr cynadleddau.
Mae Vueling yn darparu gwasanaeth sy’n adlewyrchu arferion cludwyr traddodiadol gan gynnwys gallu dewis sedd, yr opsiwn o archebu drwy asiantaethau teithio, cynlluniau pwyntiau teyrngarwch, rhwydwaith eang a gwasanaethau o’r radd flaenaf. Mae hyd yn oed yn bosib prynu tocynnau teithiau Vueling fel anrhegion arbennig ar gyfer y Nadolig neu ben-blwydd.
Gwasanaethau Busnes wedi’u creu ar gyfer teithwyr busnes.
Bydd y gwasanaeth newydd yn sicr o gael ei groesawu gan deithwyr busnes gan fod Vueling wedi creu nodweddion arbennig ar eu cyfer. Mae’r gwasanaeth Duo Seat a lansiwyd yn ddiweddar yn sicrhau sedd ddwbl yn y rhes flaen ynghyd â gofod ar gyfer bagiau llaw, byrddio manteisiol a chofrestru ar-lein mewn rhai meysydd awyr, diod a byrbryd am ddim. Yn ychwanegol, mae gwasanaeth Go Vueling yn cynnig hyblygrwydd pellach i deithwyr drwy eu galluogi i newid eu taith am ddim hyd at ddwy awr cyn gadael, drwy gynnig dewis sedd am ddim ac i gynnig y cyfle i ddewis pryd i fynd ar yr awyren yn ôl eu dymuniad.
Wrth groesawu Vueling a’r gwasanaeth newydd, dywedodd Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: “Mae’n rhoi boddhad mawr i gael croesawu cwmni awyrennau a gwasanaeth newydd i Faes Awyr Caerdydd. Bydd gwasanaeth Vueling o fudd mawr i’r ardal gan y bydd y cwmni nid yn unig yn cynnig y cyfle i deithwyr o Gymru ymweld ag un o ddinasoedd enwocaf Ewrop ond gall hefyd ddod â theithwyr i mewn i Gymru a fydd o ganlyniad yn fanteisiol i economi Cymru. Mewn hinsawdd economaidd anodd mae’n hynod galonogol gweld cwmni awyrennau yn ystyried masnachu mewn marchnadoedd newydd.”
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu hefyd gan Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, a’i disgrifiodd fel newyddion da i Faes Awyr Caerdydd.
Meddai Mrs Hart: "Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn cynnig cyfleoedd newydd i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau busnes a thwristiaeth rhwng Cymru a Sbaen, ac rydym yn obeithiol y bydd gwasanaethau newydd eraill yn dilyn."