Eastern Airways yn dod i'r brig fel cwmni awyrennau siarter
Cyhoeddwyd: 20 Hydref 2011
Cafodd Eastern Airways, sy’n gweithredu teithiau o Faes Awyr Caerdydd, ei enwi y Cwmni Awyrennau Siarter i Deithwyr Gorau mewn seremoni wobrwyo fawreddog a drefnwyd gan y diwydiant yn Llundain.
Enillodd cwmni rhanbarthol ail fwyaf y DU y wobr fawr ei bri o fewn y diwydiant awyrennau siarter yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas Awyrennau Siarter Y Baltig (BACA) yn y Guild Hall ddoe (Mercher 19 Hydref).
Eleni mae Eastern Airways yn dathlu ei ben-blwydd yn 14 oed ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf llwyddodd i ehangu ei fusnes siarter yn sylweddol, gan hefyd ail gyflwyno yr awyrennau jet Embraer i’w fflyd.
Daeth dros 130 o gwmnïau gyda chysylltiadau â’r diwydiannau hedfan/siarter i’r digwyddiad, a llwyddodd Eastern Airways i gipio’r brif wobr am y Cwmni Awyrennau Siarter i Deithwyr Gorau drwy guro’r cyn enillydd Titan Airways a hefyd Monarch Airlines.
Daw beirniaid y gystadleuaeth o blith pobl broffesiynol uchel eu parch y diwydiant siarter sy’n enwebu cwmnïau am y categorïau perthnasol, gan gynnwys y Cwmni Awyrennau Siarter i Deithwyr Gorau.
Meddai Kay Ryan, cyfarwyddwr masnachol Eastern Airways: “Ystyrir y wobr hon fel y gydnabyddiaeth uchaf yn y diwydiant awyrennau siarter, ac mae bod y cwmni awyrennau siarter i deithwyr gorau yn gamp aruthrol i bawb yn Eastern Airways. Mae’n destament gwych i ymdrechion ardderchog ein timau ar y ddaear ac yn yr awyr sy’n cydweithio i sicrhau fod y gwasanaeth o’r safon uchaf yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gan ein cwsmeriaid siarter. Yr her wrth wynebu’r dyfodol fydd i ymdrechu’n galetach er mwyn cynnal y llwyddiant ar y lefel uchel yma.”
Mae cwsmeriaid siarter Eastern Airways yn cynnwys rhai o brif gwmnïau rhyngwladol y sectorau ynni, hedfan a cherbydau, sefydliadau o’r radd flaenaf, timau chwaraeon, y diwydiant cerddoriaeth a nifer helaeth o fusnesau eraill a chwsmeriaid preifat. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau gwennol corfforaethol gan ddefnyddio awyrennau penodol.
Bu Eastern Airways yn darparu gwasanaethu siarter a rheolaidd o Gaerdydd ers 2006, gan gynnwys y gwasanaethau i Newcastle ac Aberdeen.
Mae’r cwmni awyrennau rhanbarthol hefyd yn gyson ymhlith y cwmnïau gorau yn y DU am eu prydlondeb ac mae ganddo fflyd o 30 awyren yn hedfan o 21 maes awyr yn y DU, Iwerddon, Norwy a Ffrainc.