Naples gyda Newmarket Holidays
Cyhoeddwyd: 01 Medi 2011
Bydd Newmarket Holidays yn cynnig taith hedfan uniongyrchol i Napoli ar 01 Hydref 2011.
Bydd y trefnydd teithiau yn gweithredu taith siarter uniongyrchol i Napoli, gydag amrywiaeth o raglenni ar gael ar gyfer teithwyr â chanddynt ofynion gwahanol. Bydd pecynnau hyblyg yn caniatáu i deithwyr addasu eu taith ar gyfer diddordebau penodol, yn amrywio o ymweld â saith dinas mewn saith niwrnod i dreulio wythnos mewn un lleoliad.
Meddai Alison Keeble, Cyfarwyddwr Siarter Rhanbarthol Newmarket Holidays: "Mae'r pecynnau i'r Eidal wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn rhanbarthau eraill ac rydym yn falch iawn o allu cynnig y dewisiadau yma deithwyr o dde Cymru. Mae'r cynnyrch rydym yn ei werthu i gyd yn cynnig rhywbeth gwahanol ac unigryw i ymwelwyr sydd am brofi gwir flas y gwledydd anhygoel yma, ac maen nhw hefyd yn cynnig gwerth gwych am arian, gyda'r prisiau yn dechrau o £534 y pen am saith noson mewn dewis eang o lety."
Bydd taith hedfan Naples yn gadael ar 01 Hydref 2011, gydag amrywiaeth o becynnau gan gynnwys Sorrento a Bae Naples, crwydro ynys Capri, Pompeii ac Arfodir Amalfi neu ddarganfod Feswfiws, Monte Cassino, Rhufain a Fflorens.
Am fwy o wybodaeth am becynnau Newmarket Holidays sydd ar gael o Gaerdydd ewch i www.newmarketholidays.co.uk neu ffoniwch 08433 161129.