Cardiff Airport

Newyddion

Gŵyl Banc prysur i’r Maes Awyr

Cyhoeddwyd: 23 Awst 2011

Mae Maes Awyr Caerdydd yn disgwyl dros 31,000 o deithwyr drwy ei ddrysau dros benwythnos Gŵyl Banc mis Awst, o ddydd Gwener i ddydd Llun, pan fydd teithwyr yn dianc cyn i wyliau haf yr ysgolion ddod i ben.

Disgwylir dros 170 o deithiau i mewn ac allan o’r maes awyr, ac ymhlith y lleoliadau mwyaf poblogaidd i hedfan iddynt fydd Yr Ynysoedd Balearaidd, Twrci, Gwlad Groeg a’r Ynysoedd Dedwydd, a bydd dinasoedd Dulyn, Zurich a Paris hefyd yn  denu’r teithwyr Cymreig.

Bydd bron i  2,500 o deithwyr yn hedfan i Amsterdam dros y penwythnos, a chanran uchel ohonynt yn cysylltu gyda theithiau eraill i’r 900 o leoliadau sydd ar gael ar rwydwaith KLM Air France.

Meddai Margaret James, Rheolwr Cytundebau ac Ansawdd ym Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn edrych ymlaen at benwythnos prysur dros ŵyl y banc, ac mae’r paratoadau angenrheidiol wedi’u gwneud i ymdrin â’r niferoedd ychwanegol.

“Rydym yn gofyn i bob teithiwr gydweithio gyda ni wrth fynd trwy’r maes awyr drwy ganiatáu digon o amser ar gyfer teithio, cofrestru a’r profion diogelwch, ac i gadw mewn cof y rheolau diogelwch megis cludo hylif yn eich bagiau llaw, er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn rhedeg yn esmwyth a’r teithwyr yn cyrraedd eu hawyren ar amser.”

Am wybodaeth am y rheolau diogelwch gan gynnwys cyfyngiadau ar gludo hylif cliciwch yma

News menu