Cardiff Airport

Newyddion

Manx2 Aug11

Teithiau Hedfan Ar Gynnydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 23 Awst 2011

Cyhoeddodd Manx2.com iddynt weld cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Yn ystod y tri mis diwethaf, bu cynnydd o bron i 30% yn nifer y teithwyr, a thros yr un cyfnod, ni welwyd oedi o gwbl yn y gwasanaeth gyda phob taith yn cyrraedd yn gynnar neu ar amser.

Cafodd Manx2.com a’i bartner cludo FLM Aviation eu cytundebu i ddarparu’r gwasanaeth dwywaith y dydd (Llun i Gwener) o fewn Cymru ers Mai 2010.

Ers hynny, gwelwyd nifer y teithwyr yn cynyddu yn raddol ac yn ystod y tri mis diwethaf gwelwyd cynnydd o bron i 30%, gyda dros 1,000 o bobl yn teithio ym mis Gorffennaf yn unig.

Meddai Cadeirydd Manx2.com, Noel Hayes: ‘Mae’r farchnad yn tyfu unwaith eto wrth i gymunedau bob pen i’r daith ymateb i’r gwasanaeth dibynadwy a phrydlon sy’n arbed cymaint o amser, a hefyd i’r dewis o docynnau hamdden newydd sy’n dechrau am  £24.95.

‘Mae’r cynnydd yn nifer y teithwyr yn dangos yn glir pa mor bwysig yw’r gwasanaeth awyr o fewn Cymru i’r cymunedau yn ne a gogledd y wlad, drwy gynnal cysylltiadau yn ystod y dyddiau anodd yma, a hefyd drwy helpu i gyfrannu at dwf economaidd.’

Dywedodd Dewi Williams, Pennaeth Priffyrdd a Rheoli Gwastraff Cyngor Ynys Môn: ‘Rydym am longyfarch Manx2.com ar y twf yn y gwasanaeth. Mae cael y cyswllt awyr yma rhwng de a gogledd yn hanfodol i gynnal cysylltiadau o fewn ein gwlad ac i ddatblygu economi y wlad gyfan.  Heb os, mae’r ffaith i’r gwasanaeth fod yn 100% ddibynadwy a phrydlon yn ystod y cyfnod yma wedi bod yn elfen yn y cynnydd a welwyd, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl Cymru yn parhau i gynyddu eu defnydd o’r gwasanaeth cyfleus yma.’

Cafodd cysylltiadau Celtaidd Manx2.com eu cryfhau ymhellach yn sgil teithiau tymhorol yr haf yma rhwng Ynys Môn ac Ynys Manaw, sydd, ynghyd â’r teithiau i Gaerdydd, yr unig rai masnachol sy’n hedfan o safle’r Awyrlu yn Y Fali. Trefnwyd teithiau arbennig hefyd o Gaerdydd i Ynys Manaw dros gyfnod yr ŵyl TT ar yr ynys, ac roeddent yn boblogaidd gyda chefnogwyr y digwyddiad yma sy’n enwog ledled y byd.

Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Hedfan ym Maes Awyr Caerdydd: “Mae’n wych gweld fod Manx2 ar ei ennill yn sgil cynnig gwasanaeth ardderchog i’w gwsmeriaid.

Rhaid llongyfarch y cwmni hedfan am fod yn ddibynadwy ac am y cynnydd yn nifer y teithwyr, ac mae’n galonogol gweld cwmnïau fel Manx2 sydd â chanolfan ym Maes Awyr Caerdydd yn datblygu perthynas gyda chwsmeriaid Cymreig yn sgil gwasanaeth ardderchog a phrisiau deniadol.  

 Rydym yn gobeithio y bydd y ffigyrau yn cynorthwyo Manx2 i osod seiliau cadarn ym Maes Awyr Caerdydd, ac y byddant yn annog y cwmni i gynnig mwy o wasanaethau o faes awyr cenedlaethol Cymru yn y dyfodol.”

News menu