Maes Awyr Caerdydd yn cefnogi “Iacháu’r Clwyfau”
Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2011
Maes Awyr Caerdydd fydd canolbwynt digwyddiad i godi arian rhwng 1 Awst a 31 Hydref ar ran Elusen y Lluoedd Arfog sydd wedi’i seilio yng Nghymru, “Iacháu’r Clwyfau”
Sefydlwyd Iacháu’r Clwyfau, sy’n elusen gofrestredig, gan Mr Kevin Richards, sydd yn gyn-feddyg yn y fyddin, ychydig o dan ddwy flynedd yn ôl.
Prif ddiben yr elusen yw cynnig triniaeth a chefnogaeth i gyn-bersonél milwrol a rhai presennol sydd, efallai oherwydd effeithiau gwarthdaro a rhyfel, yn dioddef o “Anhwylder Straen Wedi Trawma” (ASWT) sef “Post Traumatic Stress Disorder” (PTSD).
Mae effeithiau ASWT nid yn unig i’w gweld ar bersonél milwrol ond gallant hefyd gael effaith ar eu teuluoedd, felly mae cefnogaeth ar gael iddyn nhw gan Iacháu’r Clwyfau yn ogystal.
Gan ddefnyddio rhaglen ddwys 4 diwrnod i ddioddefwyr, a fu’n llwyddiannus dros ben, dyma’r unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru, sy’n golygu nad oes raid i gyn-filwyr a dioddefwyr eraill deithio ymhell i dderbyn triniaeth.
Mae hwn yn gyfle euraidd i godi arian, ond mae yr un mor bwysig i godi ymwybyddiaeth fod cymorth ar gael yma yng Nghymru, ac mae Maes Awyr Caerdydd yn garedig iawn wedi cynnig adnoddau i Iacháu’r Clwyfau wneud y ddau beth.
Meddai Margaret James, Rheolwr Cytundebau ac Ansawdd Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig ein cefnogaeth i achos mor deilwng, gan obeithio y bydd staff a theithwyr yn y maes awyr yn rhoi cyfraniadau hael er mwyn codi arian mawr ei angen ar gyfer Iacháu’r Clwyfau, elusen ardderchog sy’n cefnogi’r lluoedd arfog yma yng Nghymru.”
Dywedodd Kevin Richards, sylfaenydd Iacháu’r Clwyfau: "Hoffem ddiolch i Faes Awyr Caerdydd am eu cefnogaeth anhygoel wrth godi arian i’r elusen, a’n helpu ni i ddarparu triniaeth mawr ei angen yng Nghymru ar gyfer y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. Bydd cymorth caredig gan wirfoddolwyr ymroddedig yn ein helpu i godi arian i barhau i ddarparu’r gwasanaeth yma yng Nghymru."
Mae angen gwirfoddolwyr i sicrhau llwyddiant, a gallwch chi fod yn rhan o’r ymgyrch drwy gynnig ychydig o oriau o’ch amser i gynorthwyo gyda’r digwyddiad codi arian a chodi ymwybyddiaeth yma.
Os allwch gynnig cefnogaeth, a fyddwch cystal â mynd i wefan Iacháu’r Clwyfau neu ffonio 01446 795137.
Bydd eich help yn sicr o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i rywun yma yng Nghymru. Ewch i www.healingthewounds.co.uk.