Disgyblion o Gymru’n taro tant yn y Swistir
Cyhoeddwyd: 18 Gorffennaf 2011
Gwahoddwyd 42 disgybl Cymreig yr wythnos ddiwethaf o ysgol gynradd Creigiau gan gwmni awyrennau Helvetic Airways i fynd ar daith dridiau i’r Swistir i ddysgu am draddodiadau a threftadaeth y wlad, ac i gyfarfod â’u cymheiriaid mewn ysgol yn y Swistir.
Yn ôl ym Mawrth 2011 gwahoddwyd côr ysgol gynradd Creigiau i Faes Awyr Caerdydd i fod yn rhan o ddigwyddiad oedd yn dathlu lansio gwasanaeth uniongyrchol newydd, pedair gwaith yr wythnos rhwng Caerdydd a Zurich, a bu’r disgyblion yn canu yn y Gymraeg a’r Saesneg i groesawu teithwyr oedd yn cyrraedd ar yr awyren gyntaf.
Fel arwydd o’u gwerthfawrogiad, gwahoddwyd y disgyblion gan gwmni awyrennau Helvetic Airways i ymweld â’r Swistir. Cafodd y plant fynd ar daith i weld mynyddoedd syfrdanol yr Alpau, yn ogystal â chael ymweld â chanolfan Addysg y Swistir ym mhentref Einsiedeln; yna taith i ardal Rafz i fwynhau barbeciw hyfryd o selsig "wurscht" sausages gyda disgyblion o ysgol gynradd Götzen, cyn perfformio yn Gymraeg ac Almaeneg y Swistir mewn cyngerdd mawreddog, safonol.
Meddai Tobias Pogorevc, Prif Swyddog Ariannol Helvetic Airways, am y daith: “Roedd yn rhyfeddol ac yn anhygoel i glywed y plant yn canu yn Gymraeg ac yn Almaeneg y Swistir ar fynyddoedd Hoch Ybrig, ac yn werth chweil gweld y llawenydd a’r brwdfrydedd ar wynebau’r disgyblion drwy gydol eu hymweliad cyffrous â Zurich a’r ardal gyfagos.
Fe gawson ni groeso Cymreig cynnes iawn gan y disgyblion pan gyrhaeddon ni Gaerdydd am y tro cyntaf, ac roeddem ni’n awyddus i’w gwobrwyo drwy ddangos ein gwlad brydferth i genhedlaeth ifanc o Gymry, gan gryfhau ymhellach y berthynas rhwng dwy wlad hynod brydferth.
Ychwanegodd Ruth Thomas-Lehmann, Is-gennad Anrhydeddus y Swistir i Gymru, a fu’n gymorth wrth sefydlu’r cyswllt gefeillio gwreiddiol rhwng y ddwy ysgol: "Rydw i’n falch fod plant o Gymru a’r Swistir wedi elwa o brofiadau mor ddiwylliannol ac addysgiadol yn ystod yr ymweliad; ymweliad a wnaed yn bosib yn sgîl cynnig hael a llawn dychmyg Helvetic Airways"
Mae Helvetic Airways yn gweithredu gwasanaeth uniongyrchol ddwy ffordd o Gaerdydd i Zurich bedair gwaith yr wythnos drwy dymor yr haf ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau a Gwener. Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i www.helvetic.com.