Viva! Helvetic Airways yn cynnig gwasanaeth dosbarth busnes
Cyhoeddwyd: 21 Ebrill 2011
Gan ddechrau gydag amserlen haf 2011, bydd Helvetic Airways yn cynnig gwasanaeth dosbarth busnes ar y gwasanaeth o Gaerdydd i Zurich.
Yn ychwanegol i seddau cyfforddus y Fokker 100 gyda’i ofod hael o 84 cm, gall y teithiwr busnes hefyd fanteisio ar y manteision canlynol:
- Hyblygrwydd o ran amodau pris (lled hyblyg a hyblygrwydd llawn)
- Ychwanegu’r lwfans bagiau am ddim i 30 cg, ynghyd â dau fag llaw
- Mynediad i’r lolfeydd dosbarth busnes
- Desg flaenoriaeth wrth gofrestru
- Darparu prydau addas ar yr awyren yn ôl amser y daith
“Mae ein gwasanaeth dosbarth busnes “viva!” yn diwallu anghenion y teithwyr busnes ar lwybrau Bari a Chaerdydd. Gall teithwyr hefyd fwynhau’r gwasanaeth dosbarth busnes newydd eisoes ar rai teithiau siarter yr haf yma”, yn ôl Bruno Jans, Prif Weithredwr Helvetic Airways AG.
Gellir archebu’r gwasanaeth dosbarth busnes newydd nawr ar www.helvetic.com ac yn GDS Travelport, Amadeus a Sabre.