Cardiff Airport

Newyddion

Gadael am Zurich am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd: 30 Mawrth 2011

Heddiw, dydd Mercher 30 Mawrth, gadawodd yr awyren gyntaf i hedfan o Faes Awyr Caerdydd i ddinas Zurich yn y Swistir.

Bydd teithwyr ar wasanaeth Helvetic Airways nawr yn gallu hedfan yn uniongyrchol o Gaerdydd i Zurich bedair gwaith yr wythnos. Bydd y teithiau yn gadael Caerdydd ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau a Gwener.

Mae’r gwasanaeth yn defnyddio awyren Fokker 100 sedd a dyma’r tro cyntaf yn hanes y maes awyr i daith uniongyrchol i Zurich gael ei gweithredu gan y maes awyr. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn denu teithwyr busnes a hamdden yn ôl ac ymlaen i Gymru yn ogystal â de orllewin Lloegr.

Yn cyrraedd ar yr awyren gyntaf o Zurich fydd trefnwyr teithiau o’r Swistir, aelodau o’r cyfryngau a phobl ddylanwadol fydd yng Nghymru am ddau ddiwrnod yn ymweld â’r ardal.  

Meddai Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: “Bydd dathliadau yn y maes awyr heddiw wrth i’r awyren gyntaf gyrraedd o Zurich, ac yna ddychwelyd yno, a byddwn yn croesawu gwesteion o’r Swistir a Helvetic Airways.

“Dangosodd gwaith ymchwil gan y maes awyr a’r cwmni awyrennau fod Zurich yn gyrchfan fusnes ddeniadol a phwysig ac rydym yn gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yn cael croeso gan y gymuned fusnes yn y ddwy ddinas.”

Bydd y gwasanaeth newydd yn galluogi busnesau lleol sydd â chysylltiadau gyda  Zurich i hedfan yn uniongyrchol i’r ddinas. Yn Zurich mae pencadlys Schmid Telecoms UK Cyf, ac mae nifer o swyddfeydd eraill ganddynt o gwmpas y byd gan gynnwys swyddfa’r DU sydd wedi’i lleoli yn Ninas Powys, Caerdydd.

Mae Peter Coleman, Rheolwr Gyfarwyddwr Schmid Telecom UK, yn teithio i bencadlys y cwmni yn Zurich o leiaf unwaith y mis. “Bydd y gwasanaeth newydd yma o fudd enfawr gan fod teithio yn uniongyrchol o’m maes awyr lleol yn gyfleus, yn arbed amser ac yn y pen draw yn arbed arian. Mae hyn yn golygu y bydd fy musnes yn cynyddu yn ei effeithlonrwydd ac felly rydw i wrth fy modd gyda’r lansiad ac fe fyddaf yn gwsmer rheolaidd”

Meddai Bruno Jans, Prif Weithredwr Helvetic Airways AG: “Rydym yn falch fod y teithiau cyntaf yn gwerthu’n dda yn enwedig o Zurich i Gaerdydd sy’n dangos gwir ddiddordeb yng Nghymru ar gyfer dibenion busnes a hamdden. 

“Cawsom ymateb da i’n cynnig hyrwyddo o £99 un ffordd sy’n cynnwys trethi a chostau a gobeithiwn y bydd y gwasanaeth yn parhau i lwyddo fel bod ymwelwyr i’r Swistir ac i Gymru yn gweld beth sydd gan y naill i gynnig i’r llall ac yna yn penderfynu dychwelyd ac archebu taith arall.”

Bydd Helvetic Airways yn cynnig taith un ffordd am £99 sy’n cynnwys trethi a  chostau am gyfnod cyfyngedig. Gellir prynu tocynnau ar-lein ar www.helvetic.com.

News menu