Gŵyl Gynllunio yn ennill gwobr bartneriaeth
Cyhoeddwyd: 31 Mawrth 2011
Cafodd Gŵyl Gynllunio Caerdydd a’i llwyddiant wrth adeiladau cysylltiadau gyda phartneriaid busnes ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo ddiweddar.
Dyfarnwyd Tystysgrifau Rhagoriaeth gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes Cymru i Ysgol Gelf a Chynllunio Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd – trefnwyr yr Ŵyl Gynllunio – i gydnabod ei phartneriaeth gyda Maes Awyr Caerdydd a dau arcêd yng nghanol Dinas Caerdydd, y Royal a’r Morgan.
Ffurfiwyd y ddwy bartneriaeth gan Ŵyl Gynllunio Caerdydd y llynedd; canolbwynt y gwaith gyda Maes Awyr Caerdydd oedd prosiect Denu Twristiaid, a roddodd brofiad gwerthfawr i fyfyrwyr tra’n gwella amgylchedd y teithwyr. Trwy ddarparu gofod arddangos gwerthfawr yn y ddau arcêd, Royal a Morgan, gan y perchnogion, Helical Bar, llwyddwyd i godi proffil yr ardaloedd siopa yma.
Meddai Olwen Moseley o Ysgol Gelf a Chynllunio Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd a threfnydd yr Ŵyl Gynllunio: “Cafodd Gŵyl Gynllunio Caerdydd fudd enfawr o gydweithio gyda Maes Awyr Caerdydd ac arcêd Morgan a Royal. Llwyddodd yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau a drefnwyd ein helpu i ddweud wrth y cyhoedd nid yn unig am bwysigrwydd cynllunio i bob agwedd o’n bywydau, ond hefyd i ddathlu’r cyfoeth gwych o dalent cynllunio sydd gennym yma yng Nghymru. Yn sgil y partneriaethau, cafodd ein myfyrwyr hefyd gyfle i drefnu arddangosfeydd a dangos eu gwaith yn y ddau arcêd yng nghanol dinas Caerdydd. Datblygodd y prosiect byw a drefnwyd gyda’r Maes Awyr eu dealltwriaeth o’r angen i gynllunwyr proffesiynol effeithiol fod yn ymwybodol o anghenion rhanddeiliaid yn ogystal â rhai y prif gleient, a llwyddodd i gryfhau eu sgiliau trosglwyddadwy megis gweithio mewn tîm a datrys problemau fydd mor bwysig yn y dyfodol wrth geisio am swyddi.”
Ychwanegodd Cassie Houghton o Faes Awyr Caerdydd: “Mae’r bartneriaeth gyda’r Ŵyl Gynllunio a’r Ysgol Gelf a Chynllunio wedi bod yn rhan allweddol o raglen gymunedol ond helpodd ni hefyd i edrych ar y modd creadigol y gallwn groesawu teithwyr i Gymru gan greu teimlad o arbenigrwydd y lleoliad yma ym maes awyr cenedlaethol Cymru. Roeddem yn hynod falch fod Celfyddyd & Busnes wedi cydnabod y bartneriaeth ac rydym yn eiddgar iawn i barhau â’r berthynas yn ystod 2011.”
Mae rhaglen CultureStep Celfyddydau & Busnes Cymru yn buddsoddi arian mewn partneriaethau busnes a chelfyddydol i’w gwneud yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn allweddol i feithrin a datblygu cysylltiadau, yn arbennig felly mewn cyfnod economaidd anodd.
Pennawd y llun:
Gŵyl Gynllunio Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd: Chwith-Dde: Olwen Moseley a Angie Dutton o Ysgol Gelf a Chynllunio Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd; Margaret James, Rheolwr Ansawdd a Chytundebau, Maes Awyr Caerdydd, Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Maes Awyr Caerdydd, Y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, AC.