Cardiff Airport

Newyddion

Cyfle i ennill teitl pwysig i ‘Farista’ Caerdydd

Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2011

Mae pencampwr gwneud coffi sy’n gwasanaethu teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi curo cyd-weithwyr o dros 600 o wahanol leoedd bwyta dros y DU i gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth “barista” genedlaethol yn Llundain ar Fawrth 29 wedi gorffen yn yr wyth uchaf mewn rhagbrofion rhanbarthol.

Creodd Andrius, sy’n 24 oed, argraff ar y beirniaid gyda’i gyflwyniad, ei allu technegol a blas y coffi ar ôl iddo wneud pedwar cappuccino a phedwar espresso. Ei dasg nesaf fydd paratoi diod arbennig ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth, sy’n cael ei threfnu gan arbenigwyr bwyd SSP UK i gydnabod dawn ar draws brandiau’r cwmni gan gynnwys Millie’s Cookies, Caffe Ritazza, Pumpkin ac Upper Crust.

Dywedodd: “Rwyf wedi gweithio’n galed ar gyfer y gystadleuaeth ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol. Rwyf wedi gweithio i’r cwmni ers dwy flynedd a hanner ac yn falch iawn o’r coffi rydym yn ei weini yng Nghaffe Ritazza. Rwy’n gobeithio nawr y gallaf wneud cyfiawnder ag ef a chreu argraff ar y beirniaid yn Llundain.”

Ychwanegodd Graziano Moroni, Arbenigwr Coffi Cenedlaethol SSP UK: “Dangosodd Andrius angerdd ac ymroddiad i wneud coffi yn y rhagbrawf, heb sôn am allu technegol, ac mae’n llawn haeddu ei le yn y rownd derfynol. Bydd y gystadleuaeth yn galed ond rydym yn edrych ymlaen at weld rhywun yn serennu yn y rownd derfynol, a does dim rheswm pam nad Andrius fydd y seren honno.”

News menu