Maes Awyr Caerdydd yn wyrdd
Cyhoeddwyd: 17 Mawrth 2011
Erbyn hyn mae 75% o wastraff Maes Awyr Caerdydd yn cael ei ailgylchu diolch i ymdrechion y maes awyr a’r cwmni partneriaeth MITIE i wella ôl troed carbon maes awyr cenedlaethol Cymru.
Ym mis Ionawr 2011, ailgylchwyd 0.72 tunnell fetrig o bapur a cherdyn, sydd gyfwerth â thua 12 coeden.[1]
Mae cynhyrchu mwydion ffibr wedi’u hailgylchu yn arbed rhwng 40-70% o ynni o’i gymharu â mwydion ffibr newydd. Mae ailgylchu 1 dunnell fetrig o bapur gwastraff yn arbed 4,000 cilowat awr o ynni a 380 galwyn o olew. Arbedodd y maes awyr felly tua 2,880 cilowat awr o ynni mewn un mis – byddai’r cyfanswm yma o ynni yn cyflenwi digon o drydan ar gyfer 262 o deuluoedd am un diwrnod.[2]
Defnyddir hyd at 30,000 litr o ddŵr wrth gynhyrchu un dunnell fetrig o bapur o fwydion newydd, felly arbedodd y 0.72 tunnell fetrig o bapur a cherdyn a ailgylchwyd gan y maes awyr mewn mis 21,600 litr o ddŵr – tua’r un cyfanswm a byddai 30 teulu yn ddefnyddio mewn diwrnod.[3]
Llwyddodd ymdrechion ailgylchu Maes Awyr Caerdydd a MITIE rwystro cyfanswm o 11,534 tunnell fetrig o wastraff rhag cael eu gollwng mewn safleoedd tirlenwi. Mae tunnell fetrig o bapur yn cymryd hyd at dri metr ciwbig mewn safleoedd tirlenwi, sy’n golygu y byddai’r gwastraff a ailgylchwyd yn y maes awyr wedi cymryd dros 34,602 metr ciwbig pe byddai wedi’i ollwng.
Meddai Jason Coleman, Rheolwr Gweithrediadau MITIE ym Maes Awyr Caerdydd: “Mae’r casgliadau hyn yn dangos ei bod yn bosib gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gyflwyno ychydig o newidiadau a thrwy annog teithwyr a staff i ailgylchu gwastraff, ac mae’r canlyniadau’n rhyfeddol.
Mae’r tîm yma yn y maes awyr yn gweithio yn frwd iawn i leihau allyriadau carbon y maes awyr, a’n nod ni yw i gynyddu canran cyfanswm y gwastraff a ailgylchir i ffigwr uwch hyd yn oed yn 2011.”
Ychwanegodd Ian Dolan, arweinydd tîm gwasanaethau’r derfynfa ym Maes Awyr Caerdydd: “Mae’r fenter hon yn rhan o’n Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol sydd wedi ymrwymo i fonitro effeithiau amrywiol amgylcheddol ein busnes. Mae hyn yn cynnwys rheoli ynni, defnydd o ddŵr a monitro sŵn ymhlith elfennau eraill, yn ogystal â lleihau ac ailgylchu’r gwastraff a gynhyrchir gan y maes awyr.”
Mae’r maes awyr, ynghyd â’i bartneriaid gwasanaeth, wedi ymrwymo i leihau effaith amgylcheddol y busnes ac rydym yn adolygu a monitro yn barhaol ein perfformiad amgylcheddol gan ddilyn canllawiau deddfwriaethol a’n polisi amgylcheddol.