Cynnyrch Cymreig i deithwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi
Cyhoeddwyd: 01 Mawrth 2011
Mae Maes Awyr Caerdydd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy gynnig mwy o gynnyrch Cymreig nac erioed i’w gwsmeriaid, drwy gyflwyno cynnyrch Cymreig yn y Lolfa Foethus ac mewn mannau arlwyo eraill.
Ym mis Mawrth 2009 datgelodd y maes awyr enw diwygiedig a brand a gynlluniwyd i adlewyrchu y ‘teimlad o leoliad’ a hunaniaeth genedlaethol Gymreig, ac ers hynny mae wedi ymdrechu i ymgorffori’r weledigaeth hon i holl elfennau’r busnes, gan ymestyn o gyfathrebu i arwyddion ac o farchnata i arlwyo.
Cynigir cynnyrch Penderyn; Wisgi Cymreig, jin a gwirodlyn hufennog, i gwsmeriaid y lolfa, yn ogystal â phicau ar y maen Tan y Castell o Sir Benfro, Wafflau Tre-groes o Landysul, cwrw SA Brains a lager gan Celt Experience o Gaerffili.
Ein partner arlwyo SSP, yr arbenigwyr ar fwyd i deithwyr, sy’n gyfrifol am redeg yr unedau bwyd a diod gan gynnwys y Fly Half Bar, yr Echo Bar, Caffé Ritazza a’r Pentref Bwyd, ac maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch o Gymru gan gynnwys picau ar y maen cartref, creision Red Sky sy’n cynnwys Halen Môn yn ogystal â Brains SA a Smooth, sy’n hynod boblogaidd ymhlith cefnogwyr rygbi o Gymru yn ystod cystadleuaeth y Chwe Gwlad.
Mae siop di-dreth Nuance yn y lolfa ymadael yn cyfrannu tuag at nod y maes awyr o greu hunaniaeth Gymreig drwy hefyd werthu cynnyrch Penderyn, yn ogystal â gemwaith gan artistiaid Cymreig a chofroddion Cymreig ar gyfer ymwelwyr.
Eleni bydd staff y maes awyr hefyd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy gymryd rhan yn niwrnod Her Gorfforaethol Fawr y Cennin Pedr sy’n cael ei drefnu gan yr elusen Gofal Canser Marie Curie. Bydd tîm o’r maes awyr yn rhoi o’u hamser i gasglu arian yng Nghanolfan Dewi Sant i helpu cronfa’r Hosbis Marie Curie lleol sy’n agos at y maes awyr ym Mhenarth.
Meddai Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd: “Yn unol â brand Maes Awyr Caerdydd sy’n canolbwyntio ar ein Cymreictod roeddem yn awyddus y byddai ein lolfa ac adnoddau eraill yn creu ymdeimlad o leoliad drwy arddangos cynnyrch Cymreig o safon. Nid yn unig bod hyn yn ffordd unigryw i deithwyr rhyngwladol gael blas o Gymru wrth iddyn nhw adael, ond mae hefyd yn braf i’n teithwyr lleol deimlo balchder arbennig tra’n teithio o’u maes awyr cenedlaethol.
Rydym hefyd yn falch o dalu’n ôl i’r gymuned ar Ddydd Gŵyl Dewi drwy gyfrannu o’n hamser a’n hegni tuag at achos teilwng, lleol, ochr yn ochr â chwmnïau eraill yn y cylch.”